Mae casgliad newydd o 13 adroddiad Data Esboniadol YDG Cymru yn cynorthwyo ymchwilwyr data cysylltiedig i ddeall amrediad o ffynonellau data Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn well, gan alluogi eu defnydd posibl, eu dealltwriaeth a’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â gweithio gyda nhw.
Mae’r adroddiadau’n rhan o waith parhaus gan YDG Cymru, Banc Data SAIL a’i bartneriaid data i wneud data gweinyddol ac iechyd yn fwy hygyrch a defnyddiol ar gyfer ymchwil.
Mae’r gyfres Data Esboniadol wedi’i chynllunio i roi gwybodaeth ymarferol i ymchwilwyr am ddata sydd ar gael ar gyfer ymchwil wedi’i gymeradwyo. Yn hytrach na disgrifio’r wybodaeth a gedwir yn unig, mae’r adroddiadau’n archwilio sut mae data’n cael eu casglu, ystyriaethau ar gyfer sut y gellir eu defnyddio, enghreifftiau o raglenni ymchwil, cyfyngiadau hysbys, a chyfleoedd i wella ansawdd data a dogfennaeth. Mae’r gwaith hwn yn arbennig o bwysig ar gyfer ymchwil lle gall data a gesglir yn rheolaidd ddarparu tystiolaeth werthfawr ar lefel y boblogaeth am glefydau, triniaeth, defnydd gofal iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.
Mae pob ffynhonnell ddata a gwmpesir gan y gyfres ar gael drwy’r Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL), yr amgylchedd ymchwil cenedlaethol dibynadwy (TRE) ar gyfer Cymru, lle gall ymchwilwyr cymeradwy gael mynediad diogel at ddata heb eu hadnabod ar gyfer ymchwil ar ôl cael cymeradwyaeth gan y grŵp annibynnol sy’n asesu pob cais i SAIL, y Panel Adolygu Llywodraethiant Gwybodaeth (IGRP). Mae’r 13 ffynhonnell ddata a gwmpesir yn y gyfres Data Esboniadol yn cynnwys:
- ADBE – Detholiad o Enedigaethau Ardaloedd Blynyddol
- ADDE – Detholiad o Farwolaethau Ardaloedd Blynyddol
- CAPD – Gweithdrefnau Derbyn Gohiriedig
- CCDS – Set Ddata Gofal Critigol
- DATW – Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi
- EDDS – Set Ddata Adrannau Brys
- MIDS – Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth
- NCCH – Iechyd Plant Cymunedol Cenedlaethol
- OPDW – Cronfa Ddata Cleifion Allanol ar gyfer Cymru
- OPRD – Atgyfeiriad Cleifion Allanol
- PEDW – Cronfa Ddata Episodau Cleifion ar gyfer Cymru
- RTTD – Amseroedd Atgyfeirio i Driniaeth
- WDSD – Set Ddata Gwasanaeth Demograffig Cymru
