Mae YDG Cymru wrth ei fodd i fod yn rhan o fenter ymchwil newydd fawr sydd wedi sicrhau £339,000 mewn cyllid ychwanegol gan Administrative Data Research UK (ADR UK), gan adeiladu ar waith dichonoldeb cynharach a ddangosodd bŵer data cysylltiedig i ddeall anghydraddoldebau sgrinio canser yn well.
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi’r rhaglen Cancer Data-Driven Detection (CD3), sef menter ledled y DU sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr iechyd blaenllaw, gwyddonwyr data, partneriaid gofal iechyd, partneriaid data ac aelodau’r cyhoedd i ddeall a gwella canfod canser yn gynnar yn well.
Bydd y cyllid yn galluogi ymchwilwyr i gysylltu diagnosisau canser, data sgrinio a thriniaeth yn ddiogel ynghyd â ffynonellau data poblogaeth iechyd a gweinyddol, gan helpu i nodi pwy sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu canser, a pham mae rhai cymunedau yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio.
Chwaraeodd YDG Cymru ran allweddol yng nghyfnod dichonoldeb y rhaglen, a ddefnyddiodd ddata cyfrifiad ac iechyd cysylltiedig o fewn Banc Data SAIL i ddatgelu mewnwelediadau newydd pwysig i gyfranogiad mewn sgrinio canser y fron a’r coluddyn ar draws gwahanol grwpiau poblogaeth yng Nghymru. Bydd y cyllid newydd yn caniatáu i ymchwilwyr adeiladu ar y sylfaen hon, gan ddatblygu ymagweddau dadansoddol uwch ac ymagweddau a alluogir gan AI er mwyn deall risg o ganser, ymddygiadau sgrinio ac anghydraddoldebau iechyd yn well.
Dywedodd yr Athro Ashley Akbari, Prifysgol Abertawe ac YDG Cymru: “Drwy gyfuno cryfderau Banc Data SAIL, YDG Cymru, partneriaid gofal iechyd ac ymchwilwyr academaidd, rydym wedi creu amgylchedd ymchwil pwerus sy’n gallu cysylltu ffynonellau data cymhleth, dienw, yn ddiogel ar raddfa’r boblogaeth. Bydd cyllid parhaus ADR UK yn caniatáu i ni ddatblygu’r asedau data cyfoethog hyn ymhellach, gan roi cyfleoedd digynsail i ymchwilwyr ddeall risg o ganser, ymddygiadau sgrinio ac anghydraddoldebau.”
I gael gwybod rhagor am y cyllid a ddarparwyd i raglen CD3 gan ADR UK, darllenwch yr erthygl newyddion lawn yma.
