Will Lewis

Swyddog Ystadegol

Mae Will wedi ymuno â’r tîm Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil yn Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Faye Gracey. Mae ganddo radd BSc mewn Gwyddorau Mathemategol o Brifysgol Caerfaddon ac mae’n aelod newydd o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Yn ei rôl, mae Will yn cefnogi gwaith dadansoddol ar draws themâu YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at gaffael data.