Mae Cip ar Ddata newydd gan dîm Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn taflu goleuni ar batrymau risg digartrefedd ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan ddefnyddio data o raglen atal Upstream Cymru.
Yn seiliedig ar asesiadau sgrinio a gwblhawyd gan fwy na 6,000 o ddisgyblion ysgol uwchradd (11–16 oed), mae’r dadansoddiad yn cynnig darlun manwl o risg digartrefedd ymhlith pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc wedi nodi sefyllfaoedd byw sefydlog a diogel, mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at nifer lai ond arwyddocaol o ddisgyblion sy’n arddangos cyfuniadau unigryw o ddangosyddion risg.
Gan ddefnyddio technegau clwstwr ystadegol, nododd y tîm ymchwil bum grŵp gwahanol o ddisgyblion yn seiliedig ar eu hymatebion i 11 cwestiwn yn ymwneud â digartrefedd. Roedd tua 79% o ddisgyblion yn perthyn i ddau grŵp risg isel a nodweddir gan deimladau o ddiogelwch, hapusrwydd a sefydlogrwydd tai. Adroddodd grŵp pellach o ddisgyblion (15%) deimladau cymysg am fywyd cartref, gan gynnwys ansicrwydd ynghylch hapusrwydd a sefydlogrwydd tai.
Dangosodd y ddau grŵp o ddisgyblion sy’n weddill (6%) batrymau gwahanol a oedd yn destun pryder, gan gynnwys disgyblion yn nodi anhapusrwydd eithafol, a’r rhai yn nodi gwrthdaro gartref, hanes o ddigartrefedd, a phryderon am ddigartrefedd yn y dyfodol.
Mae canfyddiadau’r tîm yn tanlinellu gwerth offer sgrinio cynnar fel Upstream Cymru, tra hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ymatebion wedi’u teilwra. Gall cyfryngu teuluol fod yn briodol i rai disgyblion sy’n profi gwrthdaro ac ansefydlogrwydd tai, ond gall fod yn llai effeithiol i bobl ifanc nad yw eu gofid yn gysylltiedig yn glir â pherthnasoedd teuluol.
