Mewn datblygiad ym maes ymchwil gofal sylfaenol yng Nghymru, mae ymchwilwyr ADR Cymru wedi datblygu Ased Data Parod ar gyfer Ymchwil (RRDA) ar gyfer data Ymarfer Cyffredinol Hydredol Cymru (WLGP), gan alluogi dadansoddiad mwy effeithlon a chynhwysfawr o weithgarwch ymarfer cyffredinol sy’n rhychwantu dros dair degawd.

Nod yr adnodd data curadedig hwn, a ddatblygwyd o fewn Banc Data SAIL, yr amgylchedd ymchwil dibynadwy cenedlaethol (TRE) ar gyfer Cymru, oedd safoni curadu cofnodion gofal sylfaenol, gwella atgynyrchioldeb, a rhoi cipolwg dyfnach ar dueddiadau gofal iechyd, yn enwedig yn sgil pandemig COVID-19.

Mae manylion y dull a’r RRDA cysylltiedig, ynghyd ag ymchwil y tîm ar effaith COVID-19 ar y defnydd o wasanaethau gofal sylfaenol, wedi’u cyhoeddi yn PLOS ONE.

Ased data cynhwysfawr, strwythuredig ar gyfer ymchwil

Roedd creu’r RRDA yn cynnwys glanhau data, curadu, a thrawsnewid cofnodion yn fformat strwythuredig, wedi’i normaleiddio sy’n cefnogi ymholiadau ar raddfa fawr. Mae’r RRDA yn cwmpasu mwy na 4.6 biliwn o gofnodion gan 5.1 miliwn o bobl ledled Cymru, sy’n ymestyn o 1990 i 2024. Mae’r RRDA helaeth hwn yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer dadansoddiad hydredol o weithgarwch gofal sylfaenol cyn, yn ystod ac ar ôl pandemig COVID-19.

Mae RRDA WLGP hefyd yn cynnwys chwiliad cynhwysfawr o godau clinigol gofal sylfaenol swyddogol a lleol (Read V2, SNOMED, EMIS, a Vision). Yn ogystal, gweithredodd y tîm system ddosbarthu pedair haen i nodi mathau o ddarparwr gofal iechyd, moddau mynediad cleifion, mathau o ryngweithio, a manylion. Mae’r fframwaith hwn yn dal cymhlethdod y gweithgaredd a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol ac yn galluogi dadansoddiad dyfnach o ryngweithiadau rhwng cleifion a phractisau ar raddfa fawr.

Dangosodd y canfyddiadau cychwynnol gynnydd amlwg mewn gweithgaredd gofal sylfaenol dros y blynyddoedd, gyda chyfraddau ymgynghori yn codi 1.9 gwaith rhwng 2000 a 2024. Yn arbennig o nodedig oedd y cynnydd mewn ymgynghoriadau ôl-bandemig, sydd wedi parhau 8% uwchlaw lefelau cyn-bandemig. Yn yr un modd, dyblodd gweithgareddau presgripsiwn yn unig, a chynyddodd cyfraddau brechu yn ystod y pandemig, gan aros 1.8 gwaith yn uwch na’r rhai a welwyd cyn COVID-19.

Mae gallu’r RRDA i alluogi’r mewnwelediadau a’r tueddiadau manwl hyn yn tanlinellu ei bwysigrwydd wrth lunio polisi ac arwain penderfyniadau gofal iechyd yng Nghymru.

Gwell sylw, ansawdd ac atgynyrchioldeb ymchwil data

Un o gyfraniadau allweddol gwaith RRDA yw’r ddealltwriaeth well o sut mae ansawdd a chyflawnrwydd data gofal sylfaenol wedi esblygu dros amser. Drwy guradu manwl, dangoswyd bod cofnodi digwyddiadau gofal sylfaenol wedi dod yn llawer mwy cyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfran fwy o gofnodion a chleifion yn cael eu cadw ar ôl curadu. Mae hyn yn adlewyrchu gwelliannau mewn arferion codio, systemau cofnodi, a phrosesau cyflwyno data ledled Cymru. Felly mae’r RRDA yn galluogi ymchwil o ansawdd uchel, ac hefyd yn rhoi gwelededd newydd i esblygiad ansawdd data, gan gynnig sylfaen dryloyw, graddadwy ar gyfer astudiaethau o ymarfer clinigol, mynediad at ofal iechyd, a chanlyniadau cleifion.

Gyda’i allu i gofnodi deinameg esblygol gofal sylfaenol yng Nghymru, bydd yr RRDA yn adnodd allweddol i ymchwilwyr, clinigwyr a llunwyr polisi fel ei gilydd wrth ddeall effaith digwyddiadau byd-eang, fel pandemig COVID-19, ar systemau gofal iechyd a gofal cleifion.

Dywedodd Dr Hoda Abbasizanjani, cyd-brif awdur yr astudiaeth ac Uwch Swyddog Ymchwil ADR Cymru: “Mae gan ddata arferol botensial enfawr, ond mae hefyd angen ei drin yn ofalus i sicrhau bod dadansoddiadau’n gadarn ac yn hawdd eu dehongli. Mae datblygu RRDA WLGP wedi bod yn gam mawr tuag at wella ansawdd, cysondeb a defnyddioldeb data gofal sylfaenol yng Nghymru. Drwy greu adnodd sy’n cefnogi ymchwil atgynyrchadwy o ansawdd uchel, rydym yn galluogi dealltwriaeth gliriach o sut mae gofal sylfaenol yn newid—ac yn y pen draw yn helpu i lywio gwelliannau mewn gwasanaethau i bobl ledled Cymru.”

Dywedodd Dr Stuart Bedston, cyd-brif awdur yr astudiaeth ac Uwch Swyddog Ymchwil ADR Cymru: “Mae ein hased data parod ar gyfer ymchwil (RRDA) newydd yn dangos bod gofal sylfaenol Cymru wedi adfer ar ôl COVID-19, ac hefyd bod ymgynghoriadau yn uwch nag erioed.”

Dywedodd yr Athro Ashley Akbari, Athro Ymchwil Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae creu’r mathau hyn o asedau data (RRDAs) atgynyrchadwy a chynaliadwy sy’n barod ar gyfer ymchwil yn ffocws allweddol i’n tîm, gan sicrhau bod gan y dysgu rydym yn ei gyflawni trwy bob allbwn prosiect y potensial i gael ei (ail)ddefnyddio a gobeithio llywio a galluogi cyfleoedd ymchwil gwyddoniaeth tîm mwy effeithlon yn y dyfodol, a gweithredu fel sylfaen ar gyfer datblygiadau a gweithgareddau pellach. Mae’r data gofal sylfaenol cysylltiedig yn SAIL yn adnodd data gwych ar gyfer ystod eang o brosiectau cyfredol a phrosiectau posibl yn y dyfodol, ac rydym yn gobeithio bydd yr RRDA hwn a’i nodweddion ychwanegol yn ychwanegu gwerth ac effaith yn y blynyddoedd i ddod.”

Am ragor o wybodaeth am y WLGP a data arall y gallwch gael mynediad iddo, ewch i Fanc Data SAIL.

Darllenwch yr astudiaeth lawn yn PLOS ONE.