Mae Sam yn ddadansoddwr sy’n gweithio ar brosiectau data cysylltiedig o fewn tîm YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru. Mae ei brosiectau presennol yn cynnwys cysylltu pobl sy’n gadael gofal â’u canlyniadau addysgol yn ogystal ag archwilio setiau data gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru, gyda ffocws ar ystadegau’r iaith Gymraeg ymysg amrywiaeth o newidynnau eraill. Yn flaenorol, cyfrannodd at raglen Gwell Canlyniadau trwy Ddata Cysylltiedig (BOLD), gan roi ffocws arbennig ar gamddefnyddio sylweddau, yn ogystal â’r thema ymchwil Blynyddoedd Cynnar, yn gwerthuso’r Cynigion Gofal Plant yng Nghymru a Dechrau’n Deg gan ddefnyddio data addysg, iechyd ac economaidd-gymdeithasol cysylltiedig.

