Mae Cipolwg Data newydd gan dîm Blynyddoedd Cynnar YDG Cymru yn archwilio mynegai màs y corff (BMI) a nifer y plant sy’n cael eu himiwneiddio yn y rhaglen Dechrau’n Deg, yn Ninas a Sir Abertawe.

Dechrau’n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar arweiniol Llywodraeth Cymru i deuluoedd â phlant o dan bedair oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Nod y rhaglen yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant drwy liniaru effaith tlodi, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwael yn ystod plentyndod cynnar, gan gynnwys canlyniadau iechyd.

Roedd y dadansoddiad hwn yn cymharu canlyniadau iechyd yn ôl lefelau gwahanol o ymgysylltu â rhaglen ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg Abertawe. Er na chanfu’r tîm ymchwil gysylltiad ystadegol arwyddocaol rhwng lefelau ymgysylltu â Dechrau’n Deg a chyfraddau imiwneiddio craidd yn bedair oed, roedd y data’n dangos bod nifer helaeth yn cael eu himiwneiddio yn gyffredinol. Yn ogystal, roedd canrannau’r plant yr amcangyfrifwyd eu bod dros bwysau neu’n ordew yn gyson â’r boblogaeth gyffredinol.

Mae’r astudiaeth hon yn cynrychioli’r ymchwiliad dadansoddol cyntaf i’r elfen gwasanaeth ymwelwyr iechyd o raglen Dechrau’n Deg Abertawe a’i effaith ar ganlyniadau iechyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar drothwyon BMI a’r nifer sy’n cael eu himiwneiddio.