Mae’r Eglurhad Data hwn yn crynhoi’r profiadau a’r hyn a ddysgwyd o weithio gyda setiau data Plant mewn Angen a Phlant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (CRCS).
Bwriedir iddo fod yn fan cychwyn i helpu arwain ymchwilwyr sydd am ddefnyddio’r setiau data CIN a CRCS a Chymorth fel rhan o brosiect ymchwil cyswllt data cymeradwy, ac i roi adborth i ddatblygiad set ddata a dogfennaeth yn y dyfodol.
Mae cysylltu’r setiau data lefel poblogaeth hyn â data gweinyddol eraill yn ein galluogi i adeiladu darlun hydredol rhannol o brofiadau plant agored i niwed. Mae ganddo’r potensial i hwyluso gwell dealltwriaeth o oblygiadau hirdymor profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chyswllt gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer canlyniadau iechyd ac addysg. Gall cysylltu data gofal cymdeithasol a chyfiawnder teuluol hefyd roi cipolwg ar brofiadau hirdymor y plant hynny sydd â chyswllt â’r ddwy system.
