Mae Simon yn athro Gwybodeg Iechyd. Mae’n bensaer systemau sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn y GIG a’r byd academaidd. Ef yw Prif Swyddog Technoleg tîm mawr o ddatblygwyr meddalwedd talentog â sgiliau amrywiol. Mae Simon yn arwain y gwaith o arloesi, dylunio, datblygu a gweithredu holl ddatblygiadau systemau technegol y Platfform eYmchwil Diogel (SeRP). Mae’n gyfrifol am gyflawni’r ffrwd waith dechnegol ar gyfer Prifysgol Abertawe fel rhan o rwydwaith y DU o ganolfannau rhagoriaeth e‑ymchwil a chydweithrediadau rhyngwladol.

