Mae Sian yn Uwch Ymchwilydd ac yn Wyddonydd Data sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Hi yw’r Cyd-ymchwiliwr a’r Ymchwilydd Arweiniol ar gyfer prosiect Data Gweinyddol | Casgliad Data Amaethyddol (AD|ARC), gan adeiladu Set Ddata sy’n Barod ar gyfer Ymchwil traws-DU i ddod â data at ei gilydd ar fusnesau fferm, ynghyd â data ar unigolion mewn aelwydydd ffermio. Sian yw arweinydd Tîm Datblygu Prosiectau â Blaenoriaeth YDG Cymru ar gyfer Prifysgol Abertawe hefyd, gan weithio ar ddatblygu prosiectau ymchwil data gweinyddol ar gyfer y dyfodol.
Cyn gweithio i AD|ARC, arweiniodd Sian Brosiect Cysylltu Data ar Dlodi Tanwydd YDG Cymru, a oedd yn gwerthuso effeithiau cynlluniau Llywodraeth Cymru a oedd â’r nod o leihau tlodi tanwydd ar iechyd. Mae gan Sian dros 10 mlynedd o brofiad o weithio ar sawl prosiect cysylltu data, gan gynnwys gofal cymdeithasol, pobl hŷn a chyflyrau cronig.

