Ronan Lyons

Cyd-arweinydd Academaidd, Iechyd a Llesiant

Mae’r Athro Ronan Lyons, FLSW, yn Athro Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn un o ddau Gyfarwyddwr y Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth. Mae’n Gyd-arweinydd Academaidd i YDG Cymru ar gyfer y thema ymchwil Iechyd a Llesiant.

Mae’n feddyg iechyd cyhoeddus ac yn epidemiolegydd â thros 30 blynedd o brofiad o feddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus a gwybodeg iechyd yn Iwerddon a’r DU.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd eilaidd o wybodaeth iechyd i gynorthwyo i dargedu a gwerthuso ymyriadau gwasanaethau iechyd ac nad ydynt yn ymwneud ag iechyd i wella atal, gofal ac adfer. Ar ôl gweithio mewn adrannau brys am nifer o flynyddoedd, mae ganddo ddiddordeb parhaus mewn atal, trin ac adfer anafiadau.

Ronan yw’r Cyfarwyddwr Safle ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon, Cyfarwyddwr Ymchwil a’r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus gydag Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), sef buddsoddiad £50+ miliwn gan gyllidwyr ymchwil y DU, dan arweiniad y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Mae hefyd yn Gyd-brif Ymchwilydd a Chyd-gyfarwyddwr Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru) ac yn Gyfarwyddwr Cysylltiol Porth Data Platfform Dementia y DU y Cyngor Ymchwil Feddygol (DPUK). Mae ei bortffolio grantiau cyfredol yn fwy na £45 miliwn.