Mae Rhodri yn Wyddonydd Data ac yn Uwch Swyddog Ymchwil ar gyfer YGD Cymru ac ef yw’r ymchwilydd arweiniol ar y thema Iechyd a Llesiant. Gweithiodd Rhodri fel dadansoddwr gyda data mawr am flynyddoedd lawer cyn ymuno â’r byd academaidd yn 2014, ar ôl gweithio yn y sectorau cyfleustodau a gwasanaethau ariannol. Mae ganddo brofiad helaeth ym mhob agwedd ar brosiectau data cysylltiol gan ddefnyddio Banc Data SAIL. Mae ei brosiectau blaenorol yn cynnwys prosiectau ymyriadau tai’r Sefydliad Cenedlaethol Dros Ymchwil Iechyd (NIHR), prosiect Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru a sawl prosiect ym Mhartneriaeth Data Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield.

