Mae diddordebau ymchwil Katy ym maes cyflogaeth ac addysg, cysylltiadau diwydiannol a hawliau gweithwyr. Mae ei gwaith cyfredol, fel Cyd-ymchwilydd ag YDG Cymru, yn canolbwyntio ar ddadansoddi data addysg cysylltiol, dan feysydd ymchwil thematig data Sgiliau a Chyflogadwyedd ac Addysg. Mae gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar rôl Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd am Yrfaoedd (CIAG), gan ddefnyddio data cleientiaid ac arolygon Gyrfa Cymru wedi’i gysylltu â data addysg yng Nghymru, yn ogystal ag archwilio dylanwad yr aelwyd a rhieni ar gyrhaeddiad addysgol gan ddefnyddio data cysylltiol addysg a Chyfrifiad y DU.

