Mae Kathryn yn rheoli grant YDG Cymru a gweithgareddau cysylltiedig o fewn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â threfniadau mynediad at ficroddata Llywodraeth Cymru at ddibenion ymchwil. Mae Kathryn yn aelod o Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth a bu’n gweithio yn Llywodraeth Cymru ers dros 20 mlynedd. Cyn ymuno ag YDG Cymru, treuliodd Kathryn 15 mlynedd yn gweithio ar fonitro a gwerthuso rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewrop yng Nghymru. Mae gan Kathryn raddau BA ac MA mewn Saesneg, yn ogystal ag MscEcon mewn Ymchwil Gymdeithasol.
