Mae Dr. Lucy Griffiths yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei diddordebau ymchwil ym maes iechyd plant. Mae ei hymchwil gyfredol ag YDG yn canolbwyntio ar ystod o amgylchiadau unigol, cymdeithasol ac amgylcheddol a allai effeithio ar iechyd ac ymddygiad iechyd ymhlith plant a phobl ifanc. Lucy yw’r Cyd-arweinydd Academaidd ym meysydd ymchwil thematig Cyfiawnder Cymdeithasol, Newid yn yr Hinsawdd, ac Iechyd a Llesiant. Mae hefyd yn aelod o’r Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol a Chanolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd (cyd-arweinydd) ym maes Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

