Matt yw’r Uwch Reolwr Caffael Data ar gyfer rhan Llywodraeth Cymru o YDG Cymru. Mae Matt yn arwain ar gaffael data Llywodraeth Cymru ar gyfer Banc Data SAIL, gan drefnu cytundebau cyrchu data a sicrhau y caiff y gofynion cyfreithiol ar gyfer rhannu data eu bodloni. Mae’n gyfrifol am gyflenwi data adnewyddedig Llywodraeth Cymru, datblygu setiau data newydd ar gyfer ymchwil ac mae’n parhau â’r gwaith i wella defnyddioldeb data Llywodraeth Cymru. Mae Matt wedi gweithio mewn rolau dadansoddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ers dros 10 mlynedd ac mae’n aelod o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
