Mae Rhys yn economegydd llafur cymhwysol sydd wedi ymgymryd ag ymchwil ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chyflogaeth a’r farchnad lafur. Mae ei ymchwil wedi archwilio materion yn ymwneud â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, damweiniau yn y gweithle ac afiechyd yn gysylltiedig â gwaith, gyrfaoedd cynnar graddedigion, ansawdd swyddi a boddhad swyddi, a phenderfynyddion aelodaeth undeb. Mae hefyd wedi cyfrannu at werthuso sawl rhaglen y farchnad lafur yng Nghymru. O fewn YDG Cymru, Rhys yw’r Arweinydd Academaidd ar gyfer y thema ymchwil Sgiliau a Chyflogadwyedd. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar y trawsnewidiadau a wneir gan bobl ifanc ar ôl iddynt gwblhau eu haddysg orfodol, eu cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a rôl cyfarwyddyd ar yrfaoedd wrth gefnogi’r trawsnewidiadau hyn. Cyn ymuno â WISERD, roedd yn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth ym Mhrifysgol Warwig (1999-2006) a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2006-09), lle’r oedd yn rheoli’r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn yr hyn y cyfeirir ato bellach fel y Gwasanaeth Ymchwil Diogel.

