Rhan o uchelgais YDG Cymru yw sicrhau bod data ar gael i ymchwilwyr ledled y DU. Felly, mae’n ceisio setiau data gan wahanol sefydliadau a llywodraeth nid yn unig at ei ddibenion ymchwil ei hun ond hefyd i wneud y gorau o werth ymchwil Banc Data SAIL (Secure Anonymised Information Linkage), a ddefnyddir gan ymchwilwyr ledled y byd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r defnydd cyntaf erioed o ddata lefel y boblogaeth gan y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (Cafcass Cymru) wedi llunio pedwar adroddiad hyd yn hyn, gan ddangos gwerth y data sensitif hwn a’r potensial ar gyfer ymchwil sy’n cadw preifatrwydd ar raddfa eang. Yn hanfodol i’r ymchwil a gynhaliwyd oedd rôl YDG Cymru yn caffael data Cafcass ar gyfer y tîm ymchwil. Fe wnaeth YDG Cymru ddefnyddio ei berthynas hirsefydlog â Llywodraeth Cymru i hwyluso trosglwyddo data yn llyfn ac amserol. Ers hynny, mae YDG Cymru wedi caffael data gan Cafcass Lloegr ac ystod o ddata arall gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil cysylltiedig.
Mae’r adroddiadau – a geir yma – yn ymdrin â phynciau fel babanod newydd-anedig a babanod a anwyd i ofal, menywod mewn achosion gofal rheolaidd, nodweddion menywod sy’n ymwneud ag achosion gofal, a mewnwelediad i achosion cyfraith teulu preifat yng Nghymru. O ystyried natur fregus y grwpiau hyn a’r defnydd prin o’r math hwn o ddata at ddibenion ymchwil, mae’r adroddiadau wedi cael sylw sylweddol yn y cyfryngau ac adborth rhanddeiliaid cadarnhaol gydag effeithiau parhaus ar bolisi ac ymarfer. Daeth yr adroddiadau o Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teulu (FJDP), sef cydweithrediad rhwng Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Lancaster, gyda Cafcass a Cafcass Cymru yn rhanddeiliaid annatod. Fe’i hariennir gan Sefydliad Nuffield ac mae’n darparu Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield gyda dadansoddiad arloesol am y system cyfiawnder teuluol.
Mae caffael data Cafcass wedi bod o fudd i bob parti dan sylw. Fe wnaeth FJDP/Nuffield FJO a’r perchennog data, Cafcass Cymru, ennill mewnwelediad pwysig i gwestiynau yr oedd ganddynt am y poblogaethau bregus hyn. Hefyd, mae timau ymchwil YDG Cymru wedi dechrau defnyddio data Cafcass Cymru ar gyfer eu projectau eu hunain, er enghraifft yn ei ymchwil i blant yn ei grŵp defnyddwyr Rhaglen Effaith Strategol y Blynyddoedd Cynnar.
Yn ogystal â’r adroddiadau a’r papurau academaidd sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi, mae mwy na phum prosiect ymchwil arall ar y gweill ar hyn o bryd sy’n defnyddio’r data a gedwir ym Manc Data SAIL. Drwy alluogi i ddata Cafcass Cymru a Cafcass Lloegr gael ei rannu a’i gysylltu’n ddiogel, mae YDG Cymru wedi, ac yn parhau i, chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu ymchwil dylanwadol.
Dywedodd Dr Lucy Griffiths, Uwch Ddarlithydd ac aelod o dîm FJDP ym Mhrifysgol Abertawe, “Bydd y ffaith fod YDG Cymru wedi caffael data Cafcass, wedi’i gefnogi gan weithgareddau FJDP, yn galluogi’r gymuned ymchwil i amlygu sut mae’r system cyfiawnder teuluol yn gweithio, pwy sy’n ei defnyddio, llwybrau trwy wasanaethau a chanlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd. Bydd gwella’r dystiolaeth ymchwil yn y maes hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at bolisi ac arferion yn y dyfodol, gyda’r nod o wella bywydau’r rheiny sy’n ymwneud â llysoedd teulu.”
