Mae Dr Jennifer May Hampton, sy’n ymchwilydd yn Labordy Data Addysg Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod dau Fewnwelediad Data newydd yn ymwneud â chofrestru cynnar a lluosog ar gyfer arholiadau TGAU: patrymau dros amser a gwella graddau.

Mae’r Labordy Data Addysg yn fenter a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, a gefnogir gan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) ac sy’n gweithio ar y cyd â’r sefydliad hwnnw. Mae dau Fewnwelediad Data newydd a gyhoeddwyd heddiw yn adrodd ar un o’r pecynnau gwaith cyntaf a gynhaliwyd yn Labordy Data Addysg WISERD, a sefydlwyd ar ddiwedd 2019, a ddefnyddiodd Gronfa Ddata Arholiadau Cymru i ymchwilio i gofrestriadau cynnar a lluosog ar gyfer arholiadau TGAU mewn addysg brif ffrwd orfodol.

Mae arferion a rheoliadau cofrestru ar gyfer arholiadau yng Nghymru wedi golygu bod llawer o ddisgyblion wedi gallu sefyll arholiadau a chael graddau cyn diwedd traddodiadol addysg orfodol ar ddiwedd Blwyddyn 11. Er mai’r bwriad yw sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i fyfyrwyr, mae pryderon wedi’u codi y gall arferion o’r fath rhoi rhai disgyblion dan anfantais mewn gwirionedd mewn nifer o ffyrdd. Ynghyd â’r baich ariannol sydd ynghlwm wrth gofrestru lluosog, mae diwygiadau diweddar wedi gweld newidiadau mewn adrodd ar berfformiad ysgolion sy’n peidio â chefnogi arferion o’r fath.

Gan ddefnyddio data a gasglwyd cyn y diwygiadau, gwelwn gynnydd cyffredinol mewn cofrestru cynnar ar gyfer TGAU dros gyfnod yr astudiaeth, gydag arferion gwahanol yn cael eu harsylwi ar draws y pynciau, ond yn fwyaf cyffredin mewn pynciau mathemateg sydd hefyd â’r lefelau uchaf o gofrestru lluosog. Gan ddefnyddio’r graddau a ddyfarnwyd, nodom ddau grŵp: roedd un ohonynt yn cael ei gofrestru’n gynnar er mwyn cael yr arholiad penodol hwnnw allan o’r ffordd wrth ‘fancio’ y radd; ac un arall a oedd yn cael ei gofrestru’n gynnar er mwyn caniatáu’r cyfle i ailgofrestru ar gyfer y TGAU er mwyn gwneud y mwyaf o’r potensial am y radd uchaf bosibl. Er bod gan y pwnc hwn rai o’r cyfraddau cofrestru lluosog uchaf, mathemateg sy’n dangos y cyfraddau gwelliant isaf.

Ynghyd â phryderon unigol ac ar lefel ysgolion, mae arferion cofrestru cynnar a lluosog yn amlwg yn cael eu dylanwadu gan y rheoliadau a’r cyfyngiadau a weithredir gan strwythurau arholi. Mae’r dadansoddiad yn rhoi sylw i’r lefelau cymharol isel o ddisgyblion sy’n gwella eu gradd trwy gofrestru lluosog, yn enwedig y rhai sy’n gwneud hynny mewn ymdrech i basio trothwy hollbwysig gradd C mewn mathemateg. Er bod y pandemig byd-eang wedi arwain at newidiadau eithafol i arferion arholi a dyfarnu yn ddiweddar, gallai gwaith yn y dyfodol ystyried effaith gyffredinol cofrestru cynnar ar ddeilliannau eraill i ddisgyblion, gan gynnwys yr effeithiau ar raddau eraill a ddyfarnwyd a dilyniant gyrfa addysgol.