Mae dadansoddiad newydd gan gydweithwyr uned Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru o fewn Llywodraeth Cymru yn defnyddio data cysylltiedig i amcangyfrif niferoedd yr athrawon a staff cymorth sydd wedi derbyn brechiad yng Nghymru.

Mae’r dadansoddiad hwn yn cysylltu’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion a’r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Brechiadau COVID-19 ym Manc Data SAIL. Ers 7 Rhagfyr 2020, mae Cymru wedi arwain rhaglen frechu gyflym i leihau salwch a nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19. Mae’r adroddiad yn ymdrin â nifer y brechiadau a gofnodwyd rhwng 7 Rhagfyr 2020 ac 1 Chwefror 2022. Mae’r niferoedd sydd wedi derbyn brechiad wedi’u rhannu yn ôl rôl staff, awdurdod lleol, a demograffeg staff, gan gynnwys oedran, rhyw ac ethnigrwydd.

Roedd canlyniadau’r dadansoddiad yn dangos yr amcangyfrifir bod o 37,990 o aelodau staff ysgolion wedi derbyn y brechiad atgyfnerthu cyntaf ar 1 Chwefror 2022. Roedd hyn yn cyfateb i 82.3% o’r holl staff, gan gynnwys:

  • 84.3% o’r holl athrawon (18,395)
  • 80.4% o’r holl staff cymorth (19,950).

O’r staff ysgolion a oedd yn weddill:

  • Roedd 1.0% (445) wedi derbyn dos cyntaf y brechiad yn unig
  • Roedd 11.7% (5,390) wedi derbyn dau ddos yn unig
  • Roedd 1.6% (755) wedi derbyn trydydd prif ddos (ond dim dos atgyfnerthu)
  • Ni chofnodwyd unrhyw frechiadau ar gyfer 3.4% (1,570).

Ar y cyfan, y ganran a oedd wedi derbyn naill ai trydydd dos neu ddos atgyfnerthu gyda’i gilydd oedd 83.9% (38,740). Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, gyda Blaenau Gwent â’r ganran uchaf a oedd wedi cael y dosau hyn, sef 88.2% (870), a Chastell-nedd Port Talbot â’r ganran isaf, sef 78.1%, (1,580).

Darllenwch y dadansoddiad llawn