Mae Cip ar Ddata newydd gan dîm ymchwil YDG Cymru yn archwilio ffactorau yn yr ardal leol a all helpu plentyn i oresgyn effaith negyddol tlodi. Mae’r ymchwil yn ystyried pa wahanol benderfynyddion economaidd-gymdeithasol mewn ardal leol sy’n gysylltiedig â gwytnwch mewn plant.

Astudiodd y tîm ymchwil garfan o 159,131 o blant a oedd yn byw yng Nghymru ac a gwblhaodd eu harholiadau 16 oed (Cyfnod Allweddol 4) rhwng 2009 a 2016. Defnyddiwyd darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim (PYDd) yn ddangosydd o amddifadedd lefel aelwyd. Defnyddiodd yr astudiaeth Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc 2011) i nodi crynodiadau ac amrywiadau sawl parth o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru a’i effaith ar blant.

Canfu’r astudiaeth fod byw mewn ardal gyda diogelwch cymunedol uchel, cysylltedd da ac incwm ardal uwch (e.e., mwy o bobl yn y gwaith), yn gysylltiedig â phlant mewn tlodi yn gwneud yn dda (e.e., o ran addysg ac iechyd meddwl). Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gall buddsoddi mewn datblygu cymunedol a gwelliannau ardaloedd lleol helpu plant lleol i wneud yn dda o ran addysg, iechyd meddwl a lleihau ymddygiadau cymryd risg (defnyddio alcohol/cyffuriau). Mae gwelliannau ardaloedd lleol yn cynnwys pethau fel hyrwyddo diogelwch cymunedol a gwella’r mynediad at wasanaethau cyhoeddus a chynlluniau dychwelyd i’r gwaith.

Darllenwch yr adroddiad Cip ar Ddata llawn Mae byw mewn ardal ddiogel, gysylltiedig yn gwella cyfleoedd bywyd i blant mewn tlodi yng Nghymru.