Bydd menter sydd wedi trawsnewid sut y gellir defnyddio data gweinyddol wedi’i ddadnodi yn ddiogel i roi mewnwelediad i faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad o bron £17 miliwn.

Dyfarnwyd £16,985,944 i Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Cymru) hyd at 2026 fel rhan o fuddsoddiad £90 miliwn ledled y DU Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR y DU)  gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Fe’i sefydlwyd yn 2018 fel rhan o ADR y DU, ac mae ADR Cymru yn uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a  Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Mae tîm ADR Cymru yn cynnwys academyddion blaenllaw sydd ag arbenigedd yn y materion blaenoriaeth sy’n wynebu’r genedl. Gyda’i gilydd, mae ADR Cymru yn gweithio i sicrhau bod mewnwelediadau a thystiolaeth weinyddol amserol sy’n cael eu gyrru gan ddata yn cael eu defnyddio i helpu gwneud penderfyniadau polisi gwybodus ar gyfer pobl Cymru.

Mae ADR Cymru yn alinio ei waith â’r meysydd allweddol a amlygwyd yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru, fel addysg, iechyd meddwl a thai. Mae’n defnyddio annibyniaeth ac arbenigedd academaidd tîm o ymchwilwyr arbenigol, dadansoddwyr a gwyddonwyr data.

Mae tîm ADR Cymru wedi arwain y ffordd ar dechnegau dadansoddi data arloesol a rhagoriaeth ymchwil, gan weithio ochr yn ochr â’r SAIL Databank byd-enwog i gyflwyno ymchwil gadarn, ddiogel ac addysgiadol. O ganlyniad, mae ADR Cymru hyd yma wedi cynhyrchu dadansoddiad arwyddocaol o dan arweiniad ymchwilwyr i lywio meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ym maes tai, lles, y blynyddoedd cynnar, addysg a sgiliau, iechyd meddwl ac yn fwyaf diweddar, pandemig Covid-19.

Chwaraeodd ADR Cymru rôl ganolog yn llywio dealltwriaeth a phenderfyniadau dilynol ar lefel polisi yn ystod y pandemig yng Nghymru ac ar draws y DU, a bu ei ymchwilwyr yn gweithio i ddeall lledaeniad y pandemig yng Nghymru a’i effaith ar bobl a gwasanaethau. Bydd ADR Cymru yn parhau i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru drwy ddarparu mewnwelediad amserol i faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru, gan fynd i’r afael ag effaith eilaidd y pandemig ar bobl a gwasanaethau.

Dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: “Rwy’n falch y bydd y gwaith arloesol a gyflawnir gan bartneriaeth ADR Cymru yn parhau i ddarparu mewnwelediadau wedi’u llywio gan ddata i’r heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl. Bydd y bartneriaeth barhaus hon yn ein galluogi i gael  sylfaen dystiolaeth gyfoethocach, gan ein helpu i lunio a chefnogi penderfyniadau polisi yn y dyfodol wrth i ni anelu at gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu a’n hymrwymiadau i adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Wrth siarad am y buddsoddiad pellach, dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr ADR Cymru a Phrif Ystadegydd Cymru, Stephanie Howarth: “Mae’r buddsoddiad parhaus ym mhartneriaeth ADR Cymru ac ADR y DU yn dangos pwysigrwydd y gwaith arloesol hwn yma yng Nghymru a ledled y DU.

“Dangosodd pandemig Covid-19 y dadansoddiad cyflym y gellir ei gyflawni pan fydd gan arbenigwyr fynediad at ddata amserol wedi’i ddadnodi. Helpodd ymdrechion ADR Cymru drwy gydol y pandemig i lywio llawer o benderfyniadau yn ystod y sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym.

“Gall data, pan gaiff ei ddadnodi a’i gysylltu’n ddiogel ac yn saff, ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y broses o lunio polisïau yng Nghymru a’r DU yn cael ei hysbysu, gan helpu gwneud penderfyniadau gwell i’r bobl sy’n byw yma.”

Dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr ADR Cymru ac Athro Gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro David Ford: “Mae ADR Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei seilwaith a’i arbenigedd i sicrhau y gellir defnyddio data sydd wedi’i ddadnodi yn saff ac yn ddiogel er mwyn deall yn well y byd yr ydym yn byw ynddo. 

“Hyd yma, mae ein rhaglen waith wedi cynhyrchu allbynnau sylweddol sydd wedi helpu llunio meysydd polisi cyhoeddus allweddol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at y pedair blynedd nesaf wrth i ni barhau i arloesi arferion data diogel a dangos y rôl y gall data wedi’i ddadnodi ei chwarae, o’i ddefnyddio’n saff, yn ddiogel ac yn gywir, o ran helpu llywio’r broses gwneud penderfyniadau yng Nghymru a ledled y DU.”

Bydd y buddsoddiad parhaus yng Nghymru yn sicrhau y gall y camau i ddeall data gweinyddol yn well a sut y gall helpu ateb cwestiynau ar faterion allweddol sy’n wynebu Cymru barhau. Bydd y cyllid yn sicrhau bod seilwaith data diogel, gallu ymchwil a hyfforddiant blaenllaw ar gyfer cenedlaethau o ymchwilwyr a dadansoddwyr data yn y dyfodol yn parhau i fod ymhlith y gorau yn y byd.

Dywedodd Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr ADR y DU, “Rydym yn falch iawn o ddyfarnu cyllid i ADR Cymru barhau â’u rhaglenni pwysig o ran ymchwil data gweinyddol a chysylltu data. Mae eu gwaith ar themâu ADR y DU fel tai a chymunedau, plant a phobl ifanc, iechyd a lles, ac yn enwedig Covid-19, wedi llywio penderfyniadau polisi’n adeiladol ac wedi gwella bywydau llawer o bobl yng Nghymru.

“Mae’r estyniad cyllido hwn yn ganlyniad yr effaith wych a gafodd ADR Cymru o ran cyflawni ymchwil arloesol yn ystod cyfnod peilot ADR y DU. Mae SAIL Databank hefyd wedi bod yn adnodd hynod werthfawr sydd wedi caniatáu i ADR Cymru – a’r gymuned ymchwil ehangach – wneud gwaith ymchwil sy’n berthnasol i bolisi.”

“Wrth i bartneriaeth ADR y DU ddechrau ar gyfnod newydd o ymchwil, diolch i gyllid a adnewyddwyd, rydym yn gyffrous i gynhyrchu ymchwil data gweinyddol newydd sy’n torri tir newydd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud data gweinyddol a chysylltiedig yn saff yn ddiogel ac yn fwy hygyrch nag erioed i ystod eang o ymchwilwyr hyfforddedig, i effeithio ar bolisi mewn ffordd sy’n gwasanaethu’r cyhoedd.”

Mae ADR Cymru, ochr yn ochr ag ADR Gogledd Iwerddon, ADR yr Alban, ADR Lloegr ac ONS yn ffurfio buddsoddiad ADR y DU ar draws y DU gyfan, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU).