{"id":6367,"date":"2021-03-23T11:55:20","date_gmt":"2021-03-23T11:55:20","guid":{"rendered":"https:\/\/adrwales.org\/?p=6367"},"modified":"2023-05-04T11:56:22","modified_gmt":"2023-05-04T11:56:22","slug":"sut-gall-cysylltu-data-helpu-i-gryfhau-ffermwyr-ar-draws-y-du-persbectif-iechyd-cyhoeddus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/sut-gall-cysylltu-data-helpu-i-gryfhau-ffermwyr-ar-draws-y-du-persbectif-iechyd-cyhoeddus\/","title":{"rendered":"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<h3>Yn rhifyn diweddaraf cyfres flog\u00a0<a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/our-work\/browse-all-projects\/administrative-data-agricultural-research-collection-enhancing-the-prosperity-and-wellbeing-of-farm-households-293\/\">AD|ARC<\/a>\u00a0, mae Alisha Davies o\u00a0<a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/\">Iechyd Cyhoeddus Cymru<\/a> yn trafod pwysigrwydd data gweinyddol cysylltiedig ar gyfer gwella bywydau ffermwyr a chymunedau ffermio ar draws y DU.<\/h3>\n<p>Mae amaethyddiaeth yn llunio ein hamgylchedd naturiol ac yn cyfrannu at yr economi leol a chenedlaethol, diogelwch bwyd ac iechyd. Wrth i ni edrych ar heriau presennol, megis Covid-19, Brexit a&#8217;r newid yn yr hinsawdd, mae angen sicrhau \u00a0bod sector ffermio cynaliadwy ar flaen y gad o ran polisi amaethyddol ar draws y\u00a0<a href=\"https:\/\/commonslibrary.parliament.uk\/research-briefings\/cbp-8702\/\">DU<\/a>\u00a0(<a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/939925\/agricultural-transition-plan.pdf\">Lloegr<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/beta.parliament.scot\/bills\/agriculture-retained-eu-law-and-data-scotland-bill\">yr Alban<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2020-11\/sustainable-farming-summary-of-responses.pdf\">Cymru<\/a>\u00a0a Gogledd Iwerddon).<\/p>\n<p>Yn yr adroddiad\u00a0<a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/news\/farmers-health-and-wellbeing-needs-to-be-at-the-centre-of-brexit-response-new-report\/\"><em>Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd<\/em><\/a>, menter ymchwil a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) llynedd,\u00a0clywsom gan ffermwyr a&#8217;r rhai sy&#8217;n eu cefnogi ynghylch sut y mae teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig, ers cenedlaethau, wedi ymateb i heriau a chaledi drwy dynnu ar eu cryfderau sylweddol eu hunain. Fodd bynnag, yn aml nid yw&#8217;r cysylltiadau rhwng iechyd a gwaith\/cyflogaeth yn cael eu cydnabod na&#8217;u blaenoriaethu, er eu bod yn mynd law yn llaw. Rydym yn gwybod yr effeithir ar iechyd gan\u00a0<a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/sites\/default\/files\/What-makes-us-healthy-quick-guide.pdf\">benderfynyddion cymdeithasol <\/a>gwaelodol, gan gynnwys diogelwch cyflogaeth, tai ac incwm, ac i&#8217;r gwrthwyneb.<\/p>\n<p>Mae cryfhau ein dealltwriaeth o effaith yr heriau hyn ar fywoliaeth, iechyd a lles ffermwr, a&#8217;u teuluoedd, yn hanfodol er mwyn nodi&#8217;r anghenion a datblygu a thargedu cymorth effeithiol yn well. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru mae angen i ni allu deall effaith gweithredoedd ar ganlyniadau iechyd, ac a oes gwahaniaethau o ran effaith rhwng gwahanol fathau o aelwydydd ffermio.<\/p>\n<p><strong>Pam mae cyswllt data o gymorth?<\/strong><\/p>\n<p>Yn aml, mae&#8217;r data sydd eu hangen i ateb y cwestiynau hyn eisoes wedi eu casglu drwy arolygon gwahanol, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Arolygon\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/census\">cyfrifiadau <\/a>ac\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/employmentandlabourmarket\/peopleinwork\/employmentandemployeetypes\/methodologies\/annualpopulationsurveyapsqmi\">arolygon poblogaeth<\/a> cenedlaethol: gwybodaeth am ddemograffeg, ffactorau cymdeithasol ac economaidd ledled y DU.<\/li>\n<li>Cyfrifiad amaethyddol, neu &#8216;Arolwg Mehefin&#8217;: gwybodaeth am ardaloedd cnydau, niferoedd da byw a llafur ffermydd yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/structure-of-the-agricultural-industry-survey-notes-and-guidance#june-survey-of-agriculture-and-horticulture-in-england\">Lloegr<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2019-11\/survey-agriculture-and-horticulture-june-2019-730.pdf\">Cymru<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/www2.gov.scot\/Topics\/Statistics\/Browse\/Agriculture-Fisheries\/PubFinalResultsJuneCensus\">yr Alban<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/www.daera-ni.gov.uk\/articles\/agricultural-census-northern-ireland\">Gogledd Iwerddon<\/a>.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/collections\/rural-payments-and-grants\">Busnesau gwledig<\/a>: gwybodaeth am daliadau gwledig a grantiau ledled y DU.<\/li>\n<li>Data gofal iechyd a gasglwyd yn rheolaidd, er enghraifft yng\u00a0<a href=\"http:\/\/www.infoandstats.wales.nhs.uk\/page.cfm?orgid=869&amp;pid=40977\">Nghymru<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ndc.scot.nhs.uk\/Data-Dictionary\/SMR-Datasets\/\">yr Alban<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/digital.nhs.uk\/data-and-information\/data-tools-and-services\/data-services\/hospital-episode-statistics\">Lloegr<\/a>\u00a0a Gogledd Iwerddon.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ond un rhan yn unig o&#8217;r darlun cyffredinol sydd ei angen i lywio polis\u00efau effeithiol a ddarperir gan bob ffynhonnell ddata, ac felly mae angen dod \u00e2&#8217;r setiau data gwahanol hyn at ei gilydd i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr, heb beryglu preifatrwydd data. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw cysylltu data ar iechyd a lles ffermwyr, aelwydydd ffermio a chymunedau gwledig \u00e2 data ar fusnesau ffermio.<\/p>\n<p>Mae r\u00f4l flaenllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth sefydlu rhaglen\u00a0<a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/our-work\/browse-all-projects\/administrative-data-agricultural-research-collection-enhancing-the-prosperity-and-wellbeing-of-farm-households-293\/\">AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol)<\/a>\u00a0a ariennir gan ADR UK \u2013 cydweithrediad rhwng academyddion y DU ac ymchwilwyr y Llywodraeth i sefydlu casgliad ymchwil data cysylltiedig \u2013 yn ceisio gwneud yr union beth hynny. Bydd yn ein galluogi i sefydlu rhaglen ymchwil a monitro i archwilio effaith newidiadau polisi penodol ar ganlyniadau iechyd a busnesau fferm. Bydd hyn yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 chwestiynau megis:<\/p>\n<ul>\n<li>Beth yw&#8217;r berthynas rhwng incwm aelwydydd ffermio ac iechyd a lles meddwl ffermwyr, teuluoedd a chymunedau gwledig?<\/li>\n<li>A gaiff polis\u00efau ffermio newydd effaith anghymesur ar ganlyniadau iechyd adrannau penodol o&#8217;r gymuned ffermio?<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Oes gan ffermwyr lais?<\/strong><\/p>\n<p>Mae barn ffermwyr a&#8217;r rhai sy&#8217;n gweithio ac sy\u2019n cefnogi&#8217;r sector ffermio eisoes wedi helpu i lunio rhaglen AD|ARC drwy adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru,\u00a0<a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/news\/farmers-health-and-wellbeing-needs-to-be-at-the-centre-of-brexit-response-new-report\/\"><em>Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd<\/em><\/a>,\u00a0a gyfrannodd at ddatblygu&#8217;r rhaglen.<\/p>\n<p>Bydd ffermwyr a sefydliadau ffermio o bob cwr o bedair gwlad y DU yn cyfrannu at y prosiect drwy\u00a0<a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/our-work\/adarc-stakeholder-reference-groups\/\">grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid<\/a>. A minnau&#8217;n ferch fferm o Ogledd Iwerddon, byddaf i, ynghyd \u00e2&#8217;n cydweithwyr ffermio, yn dal y rhaglen yn atebol er mwyn sicrhau bod y casgliad ymchwil hwn yn arwain at fanteision i gymuned ffermio&#8217;r DU.<\/p>\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/p>\n<p>Bydd y prosiect arloesol hwn (a ariennir hyd at fis Mawrth 2022) yn cyflwyno&#8217;r llwyfan data dienw cyntaf ledled y DU sy&#8217;n canolbwyntio ar amaethyddiaeth, gan greu tystiolaeth newydd i gefnogi&#8217;r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polis\u00efau. Gan ddefnyddio&#8217;r data dienw a gynhyrchir gan y ffermwyr hwythau, bydd y casgliad yn cryfhau iechyd, gwytnwch a ffyniant cymunedau ffermio am genedlaethau i ddod.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn rhifyn diweddaraf cyfres flog\u00a0AD|ARC\u00a0, mae Alisha Davies o\u00a0Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod pwysigrwydd data gweinyddol cysylltiedig ar gyfer gwella bywydau ffermwyr a chymunedau ffermio ar draws y DU. Mae amaethyddiaeth yn llunio ein hamgylchedd naturiol ac yn cyfrannu at yr economi leol a chenedlaethol, diogelwch bwyd ac iechyd. Wrth i ni edrych ar heriau&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[124],"tags":[127,183],"class_list":["post-6367","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-cy","tag-ad-arc-cy","tag-agriculture-and-rural-affairs"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus - ADR Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus - ADR Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn rhifyn diweddaraf cyfres flog\u00a0AD|ARC\u00a0, mae Alisha Davies o\u00a0Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod pwysigrwydd data gweinyddol cysylltiedig ar gyfer gwella bywydau ffermwyr a chymunedau ffermio ar draws y DU. Mae amaethyddiaeth yn llunio ein hamgylchedd naturiol ac yn cyfrannu at yr economi leol a chenedlaethol, diogelwch bwyd ac iechyd. Wrth i ni edrych ar heriau...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ADR Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-03-23T11:55:20+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-05-04T11:56:22+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Cate Batchelder\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Cate Batchelder\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Cate Batchelder\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/cb7e55909feb87660d58212c717bf75d\"},\"headline\":\"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus\",\"datePublished\":\"2021-03-23T11:55:20+00:00\",\"dateModified\":\"2023-05-04T11:56:22+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/\"},\"wordCount\":728,\"commentCount\":0,\"keywords\":[\"AD ARC\",\"Agriculture and Rural Affairs\"],\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/\",\"name\":\"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus - ADR Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-03-23T11:55:20+00:00\",\"dateModified\":\"2023-05-04T11:56:22+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/cb7e55909feb87660d58212c717bf75d\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/\",\"name\":\"ADR Wales\",\"description\":\"Using data to drive positive change\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/cb7e55909feb87660d58212c717bf75d\",\"name\":\"Cate Batchelder\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/b0a79b71fc1089409fee2e263e763991f577284c9d632e74df269d8fa0372ee5?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/b0a79b71fc1089409fee2e263e763991f577284c9d632e74df269d8fa0372ee5?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/b0a79b71fc1089409fee2e263e763991f577284c9d632e74df269d8fa0372ee5?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Cate Batchelder\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/author\\\/cate\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus - ADR Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus - ADR Wales","og_description":"Yn rhifyn diweddaraf cyfres flog\u00a0AD|ARC\u00a0, mae Alisha Davies o\u00a0Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod pwysigrwydd data gweinyddol cysylltiedig ar gyfer gwella bywydau ffermwyr a chymunedau ffermio ar draws y DU. Mae amaethyddiaeth yn llunio ein hamgylchedd naturiol ac yn cyfrannu at yr economi leol a chenedlaethol, diogelwch bwyd ac iechyd. Wrth i ni edrych ar heriau...","og_url":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/","og_site_name":"ADR Wales","article_published_time":"2021-03-23T11:55:20+00:00","article_modified_time":"2023-05-04T11:56:22+00:00","author":"Cate Batchelder","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Cate Batchelder","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/"},"author":{"name":"Cate Batchelder","@id":"https:\/\/adrwales.org\/#\/schema\/person\/cb7e55909feb87660d58212c717bf75d"},"headline":"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus","datePublished":"2021-03-23T11:55:20+00:00","dateModified":"2023-05-04T11:56:22+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/"},"wordCount":728,"commentCount":0,"keywords":["AD ARC","Agriculture and Rural Affairs"],"articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/","url":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/","name":"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus - ADR Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/#website"},"datePublished":"2021-03-23T11:55:20+00:00","dateModified":"2023-05-04T11:56:22+00:00","author":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/#\/schema\/person\/cb7e55909feb87660d58212c717bf75d"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/adrwales.org\/how-can-data-linking-help-to-strengthen-farmers-across-the-uk-a-public-health-perspective\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/adrwales.org\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/adrwales.org\/#website","url":"https:\/\/adrwales.org\/","name":"ADR Wales","description":"Using data to drive positive change","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/adrwales.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/adrwales.org\/#\/schema\/person\/cb7e55909feb87660d58212c717bf75d","name":"Cate Batchelder","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b0a79b71fc1089409fee2e263e763991f577284c9d632e74df269d8fa0372ee5?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b0a79b71fc1089409fee2e263e763991f577284c9d632e74df269d8fa0372ee5?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b0a79b71fc1089409fee2e263e763991f577284c9d632e74df269d8fa0372ee5?s=96&d=mm&r=g","caption":"Cate Batchelder"},"url":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/author\/cate\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6367","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6367"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6367\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6368,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6367\/revisions\/6368"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6367"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6367"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6367"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}