{"id":4273,"date":"2022-02-02T09:00:57","date_gmt":"2022-02-02T09:00:57","guid":{"rendered":"http:\/\/adrwales.org\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/"},"modified":"2022-05-25T13:05:02","modified_gmt":"2022-05-25T13:05:02","slug":"adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/","title":{"rendered":"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU"},"content":{"rendered":"<p>Mae Dave Grzybowski, Arweinydd T\u00eem, T\u00eem Caffael Data Llywodraeth yr Alban yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/about-us\/our-partnership\/adr-scotland\/\">ADR Scotland<\/a>, yn trafod sut mae cydweithwyr yn yr Alban yn cefnogi\u2019r prosiect <a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/our-work\/browse-all-projects\/administrative-data-agricultural-research-collection-enhancing-the-prosperity-and-wellbeing-of-farm-households-293\/\">Data Gweinyddol|Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC)<\/a>, ei effaith ac adeiladu ar y gwersi sy\u2019n cael eu dysgu.<\/p>\n<h3><strong>Ychydig o wybodaeth am ADR yr Alban<\/strong><\/h3>\n<p>Yn ADR yr Alban, rydym pedair blynedd ar hyd ein taith i ddatblygu a diweddaru sut mae ymchwil cysylltu data yn cael ei gyflawni yn yr Alban. Mae\u00a0partneriaid ADR yr Alban,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.gov.scot\/\">Llywodraeth yr Alban<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/www.scadr.ac.uk\/\">Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol yr Alban (SCADR)<\/a>, yn gweithio ar y cyd i gyflwyno rhaglen uchelgeisiol o ymchwil perthnasol i bolisi. Mae hyn yn cael ei alluogi gan ddylunio dull newydd o gysylltu data a seilwaith cysylltu data wedi\u2019i uwchraddio yn y National Safe Haven yn yr Alban, sef ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/data-access\/trusted-research-environments\/\">hamgylchedd ymchwil cenedlaethol dibynadwy<\/a>.<\/p>\n<p>Am y tro cyntaf, bydd y National Safe Haven yn cynnal llyfrgell o <a href=\"https:\/\/researchdata.scot\/rds-data-catalogue\">setiau data<\/a> sy\u2019n barod ar gyfer ymchwil. Bydd y setiau data hyn yn cynnwys data o addysg, cyfiawnder, yr amgylchedd naturiol a chymunedau lleol. Bydd y setiau data curadurol hyn yn caniat\u00e1u mynediad cyflymach at ddata, gan alluogi prosiectau cysylltu newydd ac arloesol. Wrth gwrs, mae\u2019r newid hwn i&#8217;r seilwaith hefyd yn ei gwneud hi\u2019n bosibl cynnal setiau data cysylltiedig. Felly pan gysylltodd\u00a0<a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/about-us\/our-partnership\/adr-wales\/\">ADR Cymru<\/a>\u00a0\u00e2 ni ynghylch y posibilrwydd o gynnal y prosiect (AD|ARC) yn yr Alban (menter wedi\u2019i harwain gan ADR Cymru), gydag ychydig o gyffro, penderfynais gymryd rhan yn y gwaith o gefnogi fy nghydweithwyr amaethyddol yn Llywodraeth yr Alban!<\/p>\n<h3>Prosiect AD|ARC<\/h3>\n<p>Nod y prosiect AD|ARC yw deall yn well nodweddion demograffig, iechyd, addysg ac economaidd aelwydydd fferm sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 gwahanol fathau a meintiau o fusnesau fferm. Bydd hyn yn rhoi&#8217;r mewnwelediad sydd ei hangen ar y rheiny sy&#8217;n gwneud penderfyniadau i wella polis\u00efau yn y dyfodol a gwella lles ffermwyr a&#8217;u teuluoedd.<\/p>\n<p>Bu nifer o rwystrau a throeon trwstan ar ein taith hyd yn hyn. Mae cyflawni gofynion Llywodraethu Gwybodaeth Diogelu Data, dylunio methodoleg cysylltu newydd a thrafod mynediad at setiau data wedi cyflwyno heriau sylweddol, wedi&#8217;u dwys\u00e1u gan Covid-19. Fodd bynnag, drwy weithio gyda phartneriaid ledled yr Alban rydym wedi datblygu amgylchedd ymchwil saff a diogel y gall perchnogion data ymddiried ynddo i gynnal AD|ARC.<\/p>\n<h3><strong>Cysylltu data yn yr Alban a ledled y DU<\/strong><\/h3>\n<p>Yn sgil dyfodiad achosion o Covid-19 ym mis Mawrth 2020, rhoddodd arbenigwyr o bob rhan o bartneriaeth ADR yr Alban gefnogaeth i ymatebion Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Mae ADR yr Alban wedi dylunio, adeiladu a phoblogi Daliad Data Covid-19, gan alluogi ein hymchwilwyr i ddarparu tystiolaeth i gefnogi&#8217;r ymdrechion ymateb ac adfer.<\/p>\n<p>Roedd y profiadau hyn a&#8217;r cysylltiadau newydd yn ddefnyddiol pan gysylltodd ADR Cymru \u00e2 ni gyda chynnig yr AD|ARC, gan s\u00f4n eu bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn is-adran Gwyddorau Gwledig ac Amgylcheddol a Gwasanaethau Dadansoddi (RESAS) Llywodraeth yr Alban. Ar \u00f4l cynnal trafodaethau gyda chydweithwyr, roedd yn amlwg y gallwn ddarparu cymorth gyda chyngor ar ddiogelu data a helpu arwain t\u00eem y prosiect drwy&#8217;r model cysylltu newydd. Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda th\u00eem RESAS a th\u00eem prosiect ehangach ADR Cymru.<\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen, bydd ffocws mawr ar greu setiau data cysylltiedig yn rhaglen fuddsoddi nesaf ADR y DU yn yr Alban. Bydd y prosiect AD|ARC yn creu set ddata ymchwil hirdymor i ymchwilwyr ei defnyddio. Bydd y gwaith y byddwn yn ei wneud dros y misoedd nesaf yn fy helpu i ddeall sut y gall ADR yr Alban ddal y math hwn o set ddata yn ddiogel i&#8217;w ailddefnyddio. Bydd hyn yn cefnogi datblygiad y rhwydwaith ymchwil AD|ARC ymhellach.<\/p>\n<h3><strong>Beth nesaf ar gyfer AD|ARC yn ADR yr Alban?<\/strong><\/h3>\n<p>Dros yr haf, bo modd i mi gymryd rhan yn Gr\u0175p Cyfeirio Rhanddeiliaid AD|ARC yr Alban. Daeth y gr\u0175p hwn \u00e2 sefydliadau o bob rhan o&#8217;r Alban sy&#8217;n gweithio gyda ffermwyr a chymunedau gwledig at ei gilydd. Roedd yn wych gweld y brwdfrydedd dros greu&#8217;r set ddata a chlywed awgrymiadau ar sut y gellid ei defnyddio. Agorodd y sgwrs i ymchwilwyr siarad am sut y gallent ddefnyddio&#8217;r gronfa ddata yn eu hymchwil eu hunain. Efallai mai&#8217;r potensial i gysylltu newidynnau ychwanegol \u00e2&#8217;r gronfa ddata yw&#8217;r canlyniad mwyaf diddorol a chyffrous y bydd y prosiect yn ei gefnogi. Rwyf eisoes yn meddwl am sut y gallem ddefnyddio data busnes drwy ychwanegu data geo-ofodol i gefnogi ymchwil yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae angen inni weithio&#8217;n gyflym i gyflawni ymchwil a fydd yn caniat\u00e1u i weinyddiaethau ledled y DU ddeall yr effeithiau y bydd newid yn yr hinsawdd a newidiadau i bolisi amaethyddol yn eu cael ar ein cymunedau ffermio a gwledig. Amlygwyd hyn gan fy nghydweithiwr Alastair McAlpine yn ei <a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/news-publications\/news-blogs\/adarc-linking-government-data-to-support-farming-in-scotland-429\/\">flog<\/a> diweddar. Gyda hyn mewn golwg, rwyf wedi bod yn gyffrous i gefnogi&#8217;r gwaith y mae cydweithwyr ar draws Llywodraeth yr Alban wedi bod yn ei wneud i adeiladu cronfa ddata AD|ARC. Mae potensial enfawr i ddefnyddio&#8217;r gronfa ddata mewn prosiectau ymchwil diddorol a gwerthfawr. Edrychaf ymlaen at fod yn rhan o d\u00eem ADR yr Alban sy&#8217;n helpu gwneud i hyn ddigwydd.<\/p>\n<p class=\"featured\">Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch \u00e2 th\u00eem y prosiect ar <a href=\"mailto:AD-ARC@gov.wales\">AD-ARC@gov.wales<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Dave Grzybowski, Arweinydd T\u00eem, T\u00eem Caffael Data Llywodraeth yr Alban yn\u00a0ADR Scotland, yn trafod sut mae cydweithwyr yn yr Alban yn cefnogi\u2019r prosiect Data Gweinyddol|Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC), ei effaith ac adeiladu ar y gwersi sy\u2019n cael eu dysgu. Ychydig o wybodaeth am ADR yr Alban Yn ADR yr Alban, rydym pedair blynedd ar&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[44,124],"tags":[127,183],"class_list":["post-4273","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blog","category-newyddion-cy","tag-ad-arc-cy","tag-agriculture-and-rural-affairs"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU - ADR Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU - ADR Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Dave Grzybowski, Arweinydd T\u00eem, T\u00eem Caffael Data Llywodraeth yr Alban yn\u00a0ADR Scotland, yn trafod sut mae cydweithwyr yn yr Alban yn cefnogi\u2019r prosiect Data Gweinyddol|Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC), ei effaith ac adeiladu ar y gwersi sy\u2019n cael eu dysgu. Ychydig o wybodaeth am ADR yr Alban Yn ADR yr Alban, rydym pedair blynedd ar...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ADR Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-02-02T09:00:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-05-25T13:05:02+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"matt\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"matt\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"matt\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/fd1322a307447844e7efacd1b0123596\"},\"headline\":\"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU\",\"datePublished\":\"2022-02-02T09:00:57+00:00\",\"dateModified\":\"2022-05-25T13:05:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/\"},\"wordCount\":917,\"commentCount\":0,\"keywords\":[\"AD ARC\",\"Agriculture and Rural Affairs\"],\"articleSection\":[\"Blog\",\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/\",\"name\":\"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU - ADR Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2022-02-02T09:00:57+00:00\",\"dateModified\":\"2022-05-25T13:05:02+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/fd1322a307447844e7efacd1b0123596\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/\",\"name\":\"ADR Wales\",\"description\":\"Using data to drive positive change\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/fd1322a307447844e7efacd1b0123596\",\"name\":\"matt\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1e76ac772b20fc05e805136c57e697d6db002f544cc4fa543e918e4dd8297e74?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1e76ac772b20fc05e805136c57e697d6db002f544cc4fa543e918e4dd8297e74?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1e76ac772b20fc05e805136c57e697d6db002f544cc4fa543e918e4dd8297e74?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"matt\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/adrwales.org\\\/cy\\\/author\\\/matt\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU - ADR Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU - ADR Wales","og_description":"Mae Dave Grzybowski, Arweinydd T\u00eem, T\u00eem Caffael Data Llywodraeth yr Alban yn\u00a0ADR Scotland, yn trafod sut mae cydweithwyr yn yr Alban yn cefnogi\u2019r prosiect Data Gweinyddol|Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC), ei effaith ac adeiladu ar y gwersi sy\u2019n cael eu dysgu. Ychydig o wybodaeth am ADR yr Alban Yn ADR yr Alban, rydym pedair blynedd ar...","og_url":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/","og_site_name":"ADR Wales","article_published_time":"2022-02-02T09:00:57+00:00","article_modified_time":"2022-05-25T13:05:02+00:00","author":"matt","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"matt","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/"},"author":{"name":"matt","@id":"https:\/\/adrwales.org\/#\/schema\/person\/fd1322a307447844e7efacd1b0123596"},"headline":"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU","datePublished":"2022-02-02T09:00:57+00:00","dateModified":"2022-05-25T13:05:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/"},"wordCount":917,"commentCount":0,"keywords":["AD ARC","Agriculture and Rural Affairs"],"articleSection":["Blog","Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/","url":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/","name":"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU - ADR Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/#website"},"datePublished":"2022-02-02T09:00:57+00:00","dateModified":"2022-05-25T13:05:02+00:00","author":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/#\/schema\/person\/fd1322a307447844e7efacd1b0123596"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/adarc-adr-scotland-working-in-partnership-to-deliver-a-uk-wide-data-linking-project\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/adrwales.org\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/adrwales.org\/#website","url":"https:\/\/adrwales.org\/","name":"ADR Wales","description":"Using data to drive positive change","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/adrwales.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/adrwales.org\/#\/schema\/person\/fd1322a307447844e7efacd1b0123596","name":"matt","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1e76ac772b20fc05e805136c57e697d6db002f544cc4fa543e918e4dd8297e74?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1e76ac772b20fc05e805136c57e697d6db002f544cc4fa543e918e4dd8297e74?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1e76ac772b20fc05e805136c57e697d6db002f544cc4fa543e918e4dd8297e74?s=96&d=mm&r=g","caption":"matt"},"url":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/author\/matt\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4273","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4273"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4273\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4275,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4273\/revisions\/4275"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4273"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4273"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adrwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4273"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}