Cynhaliwyd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn yr International Journal of Population Data Science, gan academyddion arweiniol tai a digartrefedd ADR Cymru, Dr Ian Thomas a Dr Peter Mackie, a ddadansoddodd ddata cysylltiedig o wasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau profion Covid-19.
Canfu’r ymchwil, rhwng 1 Mawrth 2020 a 1 Mawrth 2021, fod cyfraddau heintio Covid-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yn 5%, o’i gymharu â 6.9% ymhlith y boblogaeth gyffredinol o ddemograffeg debyg.
Mae’r canfyddiadau newydd hyn yn awgrymu y gallai newidiadau i bolisi digartrefedd yn ystod y pandemig fod wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl a oedd yn ddigartref ar y pryd o ran lleihau heintio. Gweithredodd awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector y newidiadau polisi. Gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £50 miliwn a mandadu symud i ffwrdd o atebion llety cymunedol i bobl ddigartref, yn hytrach ffafrio llety hunangynhwysol.
Dywedodd Dr Ian Thomas: “Ysgogodd dechrau pandemig Covid-19 bryder eang am effaith bosibl y feirws ar bobl ddigartref. Roedd y pryderon yn ymwneud â phobl a oedd yn llythrennol heb do uwch eu pen a’r rhai mewn mathau cymunedol o lety, fel llochesi a hosteli, lle’r oedd cyfleusterau a mannau awyr yn cael eu rhannu. Ofnwyd y gallai’r amgylcheddau hyn lesteirio gallu unigolyn i gadw at gyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus ynghylch hylendid dwylo, cadw pellter corfforol, ac ynysu pan fo’n symptomataidd neu ar ôl cael prawf cadarnhaol.
“Drwy gynnal yr ymchwil hon yng Nghymru, gyda data dienw o Gymru, cawsom gyfle i archwilio haint y coronafeirws mewn lleoliad ymateb i bolisi digartrefedd a oedd yn wahanol iawn i ymatebion mewn sawl rhan arall o’r byd.”
Aeth Ian ymlaen i ddweud, “Mae corff mawr o dystiolaeth sy’n dangos y gall mathau cymunedol o lety dros dro, fel hosteli a llochesi, wneud mwy o niwed na lles. Yn sgil potensial gwirioneddol amrywiolion coronafeirws fyddai hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy, ynghyd â’r gaeaf yn agosáu, mae’r neges yn glir: rhaid peidio â dychwelyd at y defnydd o hosteli a llochesi amhriodol yn ein hymateb i ddigartrefedd.”
Mae’r tîm ymchwil bellach yn bwriadu dilyn eu dadansoddiad drwy archwilio effeithiau posibl penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu brechu pobl ddigartref.