Bydd cyfoeth o setiau data’r llywodraeth, yn ogystal â setiau data astudiaethau ac arolygon, ar gael â mynediad diogel atynt gan ddefnyddio SafePods. Bydd hyn yn cynnwys setiau data cysylltiedig newydd a grëwyd gan brosiectau Ymchwil Data Gweinyddol y DU (YDG y DU), megis rhaglen arloesol Data First y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a mwyafrif y setiau data a gedwir gan Wasanaeth Ymchwil Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gwasanaeth Data’r DU, a Banc Data SAIL.

Ystafell fach barod yw SafePod sy’n darparu’r mesurau diogelwch a’r rheolaethau angenrheidiol i alluogi ymchwilydd i gael mynediad at ddata sy’n gofyn am fynediad diogel, a gweithio arnynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen cadw unrhyw ddata y tu mewn i SafePod, ac yn lle hynny darperir mynediad trwy gysylltiad diogel o bell â gweinydd y sefydliad sy’n dal y set ddata. Yn ogystal, mae polisïau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer rheoli a defnyddio SafePods.

Bydd SafePods wedi’u lleoli’n bennaf mewn prifysgolion, gan gael gwared ar y teithio, y costau a’r amser sy’n rhwystro ymchwilwyr rhag mynd i’r nifer fach o leoliadau diogel pwrpasol presennol yn y DU. Gall ymchwilwyr archebu SafePod trwy wefan newydd Rhwydwaith SafePod, a lle bo angen, rhoddir mynediad â blaenoriaeth ar gyfer ymchwil sy’n hanfodol i gymdeithas a’r economi.

Mae diogelwch data a ddefnyddir ar gyfer ymchwil yn hanfodol, gan fod llawer o’r setiau data dan sylw yn seiliedig ar gofnodion gweinyddol miliynau o bobl ledled y DU. Mae rheolaethau llym eisoes ar waith ar gyfer eu defnyddio mewn ymchwil, ac mae’r setiau data naill ai’n cael eu dadadnabod neu eu dienwi cyn y gellir eu defnyddio. Mae SafePods yn cynnal y diogelwch ffisegol sydd ei angen ar gyfer defnyddio’r setiau data hyn mewn ymchwil ac maent yn galluogi ymchwilwyr i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr am y ffordd y mae ein cymdeithas a’n heconomi yn gweithredu, heb gyfaddawdu ar breifatrwydd unrhyw un.

Mae SafePods eisoes wedi’u gosod ym Mhrifysgolion Caerfaddon, Bryste, Canol Sir Gaerhirfryn, Caerwysg, Glasgow Caledonian, Lerpwl, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, Manceinion, Nottingham, Rhydychen, Ulster, Caerefrog a’r Archifau Gwladol. Mae 12 arall wedi’u cynllunio a disgwylir i’r holl osodiadau gael eu cwblhau erbyn 2022.

Cyllidir y Rhwydwaith SafePod gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a chaiff ei redeg gan Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol yr Alban fel rhan o raglen YDG y DU.

Dylai prifysgolion a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn cynnal SafePod, ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cael mynediad atynt, gysylltu â Rhwydwaith SafePod ar 01334 463901 neu anfon neges e-bost at safepodnetwork@st-andrews.ac.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.safepodnetwork.ac.uk.

Dywedodd Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr YDG y DU: “Mae gwneud Rhwydwaith SafePod yn rhan integredig o raglen YDG y DU yn hanfodol i’w lwyddiant hirdymor gan y bydd ymchwilwyr arbenigol yn cael mynediad cyfartal at gyfoeth o ddata sector cyhoeddus y DU a chyfle cyfartal i greu mewnwelediadau sy’n llywio polisïau cyhoeddus. Rwyf wrth fy modd â’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran gosod y SafePods hyd yn hyn, ac ni allaf aros i weld pa wybodaeth newydd bwysig y bydd ymchwilwyr ledled y DU yn gallu’i datgelu o ganlyniad.”  

Dywedodd yr Athro Chris Dibben, Cyfarwyddwr Rhwydwaith SafePod: ”Tan yn ddiweddar, ni allai ymchwilwyr mewn sawl rhan o’r DU gael mynediad i setiau data gweinyddol yn ddiogel ac yn hawdd. Mae’n debygol bod hyn yn golygu na ddigwyddodd gwaith ymchwil pwysig er budd y cyhoedd. Bellach, gyda’r SafePods yn cael eu gosod ledled y DU, ni ddylai unrhyw ymchwilydd fod ymhell o bwynt mynediad – ac mae hyn yn trawsnewid tirwedd ymchwil y DU.”

Dywedodd Debra Hiom, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Llyfrgell ym Mhrifysgol Bryste: ”Rydym yn falch iawn bod un o’r SafePods cyntaf wedi’i leoli ym Mhrifysgol Bryste. Mae cael mynediad at wasanaethau rhithwir yn bwysicach fyth yn yr amgylchiadau presennol ac mae gennym nifer o ymchwilwyr sy’n awyddus i ddefnyddio’r cyfleuster newydd.”

Dywedodd yr Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru a Chyd-sylfaenydd Banc Data SAIL: ”Mae Banc Data SAIL yn falch o gael ei gydnabod fel aelod o Rwydwaith SafePod. Mae egwyddor SafePod o roi mynediad diogel at ddata heb gyfyngiadau daearyddol yn un sy’n sylfaen i Fanc Data SAIL. Ers dros ddegawd, mae SAIL wedi hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg arloesol o bell i alluogi ymchwilwyr cymeradwy, achrededig i gael mynediad diogel at ddata dienw ar gyfer ymchwil. Edrychwn ymlaen at weithio â lleoliadau SafePod eraill ledled y DU wrth i ni gefnogi ymchwilwyr achrededig sy’n gweithio ar ymchwil er budd y cyhoedd.”

Dywedodd yr Athro Matthew Woollard, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Data’r DU: ”Bydd y data a reolir, y darparwn fynediad iddynt drwy gyfleuster SecureLab, yn fwy hygyrch bellach i ymchwilwyr achrededig ledled y DU. Nid oes ffordd well o ddathlu dengmlwyddiant cyfleuster SecureLab Gwasanaeth Data’r DU nag ymestyn ei gyrhaeddiad ar draws y DU gan alluogi mwy o ymchwil a allai fod o fudd i gymdeithas.”

Dywedodd Pete Stokes, Cyfarwyddwr y Rhaglen Data Integredig yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol”Bydd y Rhwydwaith SafePod yn darparu ffordd ddiogel a chyfleus i ddadansoddwyr gael mynediad at ystod eang o ddata sy’n cael eu cadw yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mewn mannau eraill, a fydd yn cynyddu ystod a maint y gwaith ymchwil gwerthfawr a gynhelir, gan ddarparu tystiolaeth well ar gyfer gwneud penderfyniadau a darparu buddion sylweddol i’r cyhoedd.”