Yn ei blog, mae Emily Oliver, Pennaeth Ymchwil a Meithrin Gallu yn ADR UK, yn trafod nodau’r Strategaeth Hyfforddi a Meithrin Gallu, sydd wedi ei rhyddhau heddiw.

Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu data i raddau helaeth ym maes ymchwil. Yn fwy nag erioed o’r blaen, fe’i defnyddiwyd i lunio polisi, dylanwadu ar ymddygiad a newid arfer. Yn ADR UK, ein cenhadaeth yw harneisio potensial data gweinyddol ar gyfer ymchwil er budd y cyhoedd. Ond mae data gweinyddol yn gallu bod yn gymhleth.  Ac mae llawer ohono.  Ac mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth sydd ynddo, sut mae cael gafael arno, a beth allwch chi ei wneud ag ef.

Mae ADR UK wedi cymryd yr her i helpu mwy o ymchwilwyr i ddeall potensial data gweinyddol, i’w helpu i gael gafael arno a’u hyfforddi i’w ddefnyddio. Mae ein Strategaeth Hyfforddi a Meithrin Gallu newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi pum llwybr i gyrraedd llu o ddysgwyr gan gynnwys pawb o israddedigion i ymchwilwyr gyrfa uwch a chynghorwyr y llywodraeth.

Gyda buddsoddiad o £2.3 miliwn dros y pedair blynedd nesaf, mae ADR UK yn bwriadu ysbrydoli carfan eang o ddysgwyr â:

  • Gwybodaeth am sut i ddarganfod a chael gafael ar setiau data gweinyddol cysylltiedig, sut i’w defnyddio a phwy allai ariannu’r gwaith hwn.
  • Cyfeirio clir at gyfleoedd dysgu, offer ac adnoddau presennol i gefnogi ymchwil.
  • Ymgysylltu ar draws y gwyddorau cymdeithasol trwy ein rhwydweithiau o Ganolfannau ar gyfer Hyfforddiant Doethurol a Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol.
  • Cyfleoedd hyfforddi newydd sy’n annog mwy o ddefnydd o’r setiau data gweinyddol cysylltiedig cyfoethog sydd eisoes ar gael at ddefnydd ymchwil yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
  • Cymorth i ‘ddysgu wrth wneud’: secondiadau mewn swydd a lleoliadau i ymchwilwyr sydd am weld effeithiau bywyd go iawn defnyddio data gweinyddol ar gyfer ymchwil er lles y cyhoedd.

I gyflawni’r strategaeth hon, mae ADR UK wedi sefydlu grŵp cynghori cryf i lywio ein gweithgareddau. Bydd cael y grŵp yn hyrwyddo’r gwaith hwn yn ein helpu i optimeiddio defnydd ymchwil yr asedau hynod werthfawr y mae data gweinyddol yn eu darparu. Bydd cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o bartneriaeth ADR UK yn helpu i sicrhau bod manteision y gwaith hwn yn estyn y tu hwnt i’r asedau y buddsoddwn ynddynt a’r ymchwilwyr a ariannwn yn uniongyrchol. Ein nod yw datblygu cymuned eang o ymarfer ar draws sefydliadau, sectorau a disgyblaethau.

Darllenwch Strategaeth Hyfforddi a Meithrin Gallu ADR UK