Canfu adroddiad newydd fod pobl ifanc sy’n dechrau achosion gofal yn defnyddio gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd yn amlach na phobl ifanc ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.

Roedd yr astudiaeth a gynhaliwyd gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol, ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerhirfryn, yn defnyddio data gan y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass Cymru) sy’n gysylltiedig â chofnodion iechyd a gedwir ym Manc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw). Ei nod oedd datgelu gwahaniaethau amlwg o ran defnyddio’r gwasanaeth iechyd rhwng pobl ifanc yn y boblogaeth gyffredinol a’r rhai sy’n dechrau achosion gofal. Roedd yr ail yn defnyddio gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd yn amlach, gan gynnwys gofal damweiniau ac achosion brys.

Roedd gan ychydig dros hanner y rhai mewn achosion gofal anhwylder iechyd meddwl a gofnodwyd gan eu meddyg teulu hefyd, o’u cymharu â thraean o’u cyfoedion nad ydynt mewn achosion gofal. Roedd ffigurau derbyn i’r ysbyty a phresenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am anhwylderau iechyd meddwl, anafiadau, a chyflyrau sy’n gysylltiedig â gwenwyno hefyd yn sylweddol uwch. Er enghraifft, roedd 6.6% wedi’u derbyn i’r ysbyty am anaf neu wenwyno, ac 1.7% am anhwylder iechyd meddwl, o’u cymharu ag 1.3% a 0.1%, yn y drefn honno, ar gyfer y cyflyrau hyn yn y boblogaeth gyffredinol.

Yn ôl Dr Lucy Griffiths, Uwch Ddarlithydd ym maes Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe a Chyd-ymchwilydd YDG Cymru: “Trwy gysylltu data iechyd a chyfiawnder teuluol lefel y boblogaeth a gedwir ym Manc Data SAIL, mae’r ymchwil hon yn profi gwendidau iechyd dwysach plant hŷn a phobl ifanc sy’n mynd i achosion gofal.

Er bod angen rhagor o waith i ddeall cefndir y cyfraddau uchel o ddiagnosis iechyd meddwl a ganfuwyd gennym, a difrifoldeb ac achosion anafiadau, mae’r astudiaeth hon yn amlygu bod angen gwell darpariaeth o ran cymorth gofal cymdeithasol ac iechyd wedi’i gydlynu i bobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i achosion gofal.

Gan weithio o fewn Banc Data SAIL gyda data Cafcass Cymru a gafwyd ar gyfer y prosiect hwn gan YDG Cymru, datgelodd yr astudiaeth hefyd fod nifer y bobl ifanc sy’n destun achosion gofal wedi codi o 219 i 323 rhwng 2011-12 a 2019-20 sef 47% o gynnydd. Mae hyn yn codi’n gyflymach nag i unrhyw grŵp arall o blant.

Mae’r cynnydd yn newid sylweddol yn ystod oedran y plant sy’n dod gerbron y llys teulu ac yn codi cwestiynau ynglŷn â’r graddau y mae’r system wedi’i pharatoi i ddiwallu eu hanghenion. Ddegawd yn ôl, dim ond 18% o holl blant mewn achosion gofal yng Nghymru oedd pobl ifanc; roedd hyn wedi codi i 23% erbyn 2019/2020.

Yn ardal Caerdydd a De-ddwyrain Cymru yr oedd y cyfraddau uchaf o bobl ifanc mewn achosion, ac yna’r Gogledd. Yn Abertawe a De-orllewin Cymru oedd yr isaf o bell ffordd – a hynny bron i hanner cyfraddau Caerdydd a De-ddwyrain Cymru.

Mae tystiolaeth o gynnydd arbennig o sydyn yn nifer y glasoed sy’n destun achosion gofal yn y ddwy flynedd rhwng 2014-15 a 2016-17. Mae hyn yn cyd-daro â newidiadau o ran defnyddio trefniadau llety gwirfoddol o dan Adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ôl i’r llys teulu godi pryderon am eu defnyddio. Mae’r newidiadau’n golygu y gall rhieni gytuno’n wirfoddol y dylai’r Awdurdod Lleol letya eu plentyn neu eu plant – a hynny’n aml mewn gofal maeth – heb unrhyw gysylltiad gan y llys. Mae’r cynnydd amlwg mewn pobl ifanc mewn achosion gofal o’r adeg hon yn awgrymu cynnydd yn yr achosion a ddaw gerbron y llys yn hytrach.

Dywedodd Lisa Harker, Cyfarwyddwr Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield: “Daw plant hŷn i achosion gofal gyda set unigryw o wendidau, a’r rheini wedi’u hysgogi’n aml gan ansefydlogrwydd hirdymor ynghyd â niwed o’r tu allan i’r cartref.  Ar gyfer y systemau amddiffyn plant a chyfiawnder teuluol – sydd, tan yn ddiweddar, wedi canolbwyntio ar amddiffyn plant iau ac ar ddeall risgiau o fewn cartref y teulu yn hytrach na’r tu allan iddo – mae hyn yn golygu ailystyried yn llwyr yr opsiynau sydd ar gael i weithwyr proffesiynol i ddiwallu anghenion y bobl ifanc hyn.”

Mae’r tîm y tu ôl i’r dadansoddiad yn cynnwys academyddion YDG Cymru, Dr Lucy Griffiths, Rhodri Johnson, yr Athro Ann John a’r Athro David Ford, gyda chydweithwyr o Brifysgol Abertawe (Ian Farr, Carys Jones, Alex Lee), Prifysgol Caerhirfryn (Dr Bachar Alrouh a’r Athro Karen Broadhurst) ac Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (Alice Roe).

Darllenwch yr adroddiad llawn.

Mwy o wybodaeth am blant hŷn a phobl ifanc mewn achosion gofal yng Nghymru a Lloegr.