Mae ymchwil YDG Cymru, drwy ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig, wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr i’r cysylltiad rhwng tlodi tanwydd ac iechyd.

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn 2017 fe wnaeth YDG Cymru ddarganfod bod y rheiny a gyrchodd cynllun Nyth Cartrefi Cynnes y llywodraeth yn llai tebygol o ofyn am gymorth gan y GIG a chael eu derbyn i’r ysbyty am faterion iechyd cardiofasgwlaidd ac anadlol. Roedd yn ymddangos bod y mesurau ‘NYTH’ yn cael effaith amddiffynnol, a welwyd ar draws pob grŵp oedran.

Awgrymodd yr ymchwil hon fod cynlluniau tlodi tanwydd yn cael effaith bwerus y tu hwnt i helpu pobl i gynhesu eu cartrefi. Hefyd, arweiniodd at ymestyn y cyllid ar gyfer y cynllun rhwng 2018-21, yn ogystal â chyllid ar gyfer y Rhaglen Tystiolaeth Amodau Tai ac Adnodd Dadansoddol Stoc Tai. 

Cyhoeddwyd yr allbwn diweddaraf o’r ymchwil hon ym mis Hydref 2019, a hon oedd yr astudiaeth gyntaf i gymharu’n uniongyrchol effeithiau iechyd dau gynllun effeithlonrwydd ynni cartref gwahanol – un wedi’i arwain gan alw ac un wedi’i seilio ar ardal. Dangosodd yr astudiaeth nad oedd y naill gynllun yn cael unrhyw effaith ar b’un a oedd derbynwyr yn dioddef o gyflwr iechyd yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, ar gyfer y ddau gynllun, roedd gostyngiad yn nifer y digwyddiadau meddygon teulu ar gyfer iechyd anadlol o’i gymharu â’u grwpiau rheoli perthnasol. Mae’r patrwm cyson mewn gostyngiadau ar draws cynlluniau, er nad ydynt bob amser o arwyddocâd ystadegol, yn awgrymu bod y ddau gynllun yn gwella iechyd anadlol. Mae disgwyl i’r canfyddiadau lywio cynlluniau tlodi tanwydd yng Nghymru yn y dyfodol.