Bu ymchwilwyr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) yn cydweithio â’r Ganolfan Effaith Digartrefedd i archwilio’r amser a gymerir i ailgartrefu pobl o aelwydydd digartref yn yr Alban, ar gyfer Mewnwelediad Data newydd.

Yn 2018, mabwysiadodd Llywodraeth yr Alban ‘Ailgartrefu Cyflym’ fel ei hymateb diofyn i ddigartrefedd. Nod Ailgartrefu Cyflym yw helpu pobl i gael llety parhaol cyn gynted â phosibl, gan gydnabod y gall bod yn ddigartref neu mewn llety dros dro fod yn niweidiol i iechyd a lles pobl. Lluniwyd y dull hwn â’r ddealltwriaeth, lle na ellir atal digartrefedd, y dylai fod am y cyfnod byrraf posibl.

Ers 2018, bu’r 33 o awdurdodau lleol yn yr Alban yn mabwysiadu Ailgartrefu Cyflym, ac eto dim ond ychydig o ddata cyhoeddedig sy’n bodoli ar ‘sut olwg’ sydd ar ailgartrefu pobl yn gyflym, er mwyn meincnodi ei weithrediad. Mae’r data hynny sydd ar gael yn ymwneud â’r amser a gymerir i gau achos am gymorth, ni waeth beth fo’r canlyniad. Yr hyn sydd eisoes yn hysbys o ddadansoddi data ar aelwydydd digartref yw mai’r amser cyfartalog rhwng asesiad a chau achos yn 2019/20 oedd 224 diwrnod.

Yn ein Mewnwelediad Data diweddaraf, rydym yn defnyddio data cyfanredol ar gyfer y cyfnod 2019/20 gan Lywodraeth yr Alban i archwilio hyd y cyfnod rhwng gwneud cais am gymorth a chael cynnig llety parhaol. Canfuom fod llai nag un o bob pump o aelwydydd digartref yn yr Alban yn cael cynnig llety parhaol mewn llai na 60 diwrnod. Roedd amrywiaeth sylweddol rhwng awdurdodau lleol gwahanol, gyda’r canolrif ar gyfer cael cynnig llety rhwng 62 a 779 diwrnod.

Ein nod yw darparu llinell sylfaen ar gyfer mesur cynnydd y dull Ailgartrefu Cyflym. Yn ogystal, bydd y Mewnwelediad Data hwn yn llywio gwerthusiad newydd o effeithiau Ailgartrefu Cyflym yn yr Alban sy’n cael ei gynnal gan ymchwilwyr YDG Cymru mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Effaith Digartrefedd.