Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad sy’n arddangos canfyddiadau gweithdy i’r cyhoedd a chleifion ar gyfer pobl sy’n byw â diabetes math 1, i lywio gwaith prosiect ‘Cost bersonol cyflyrau iechyd mewn plentyndod’. Mae Charlotte Austin o Diabetes UK yn trafod pwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd yn y gwaith hwn, a chanfyddiadau’r gweithdy.

Mae Diabetes UK wedi bod yn cefnogi prosiect ymchwil sydd â’r nod o gysylltu data addysg â data archwiliad diabetes er mwyn helpu i ddeall yn well y cysylltiadau rhwng y cymorth a geir mewn ysgolion a chlinigau diabetes, a chanlyniadau iechyd ac addysgol dilynol. Mae Diabetes UK yn cefnogi’r gwaith hwn oherwydd gwyddwn fod diabetes yn gyflwr sy’n mynd y tu hwnt i fesurau iechyd ac sy’n effeithio ar nifer o agweddau ar fywyd beunyddiol unigolion.

Er bod Ymchwil Data Gweinyddol y DU (YDG y DU) wedi darparu’r buddsoddiad ariannol ac yn cefnogi ochr ddata gwyddor gymdeithasol y prosiect hwn, roedd Diabetes UK yn awyddus i gefnogi ymgysylltiad ag unigolion â diabetes. Mae’r cyfle cyntaf i wneud hyn wedi dod yn weddol gynnar yn y prosiect, wrth helpu i gasglu barn pobl ifanc â diabetes math 1 ar y penderfyniadau a wneir ynghylch defnyddio eu data.

Cysylltu data diabetes a data addysg: y broses

Mae cysylltu data diabetes a data addysg yn heriol mewn nifer o ffyrdd. Mae natur amlddisgyblaethol y gwaith o gysylltu yn her dechnegol (oherwydd nad oes rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn y data addysg), ac mae’n her o ran llywodraethu gwybodaeth oherwydd ei fod yn gofyn am ddefnyddio dynodyddion ar gyfer cleifion – fel enw a dyddiad geni – i gysylltu manylion cofnodion iechyd yr unigolyn â’i gofnodion addysg.

Er mwyn cael cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio’r dynodyddion personol hynny gan Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, mae angen tystiolaeth (ymhlith llawer o amodau eraill) yr ymgynghorwyd â chleifion ar y cynlluniau, a’u bod yn fodlon bod y prosesu yn unol â disgwyliadau unigolion (h.y. nid oes unrhyw beth annisgwyl yn codi), a bod y wybodaeth a ddarperir ar y defnydd o’u data yn glir ac yn hygyrch. Ar ben hynny, mae ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch defnyddio eu data yn rhan bwysig o gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd a sicrhau’r budd mwyaf posibl o’r gwaith hwn.

Yr hyn a ddysgom o gynnal y gweithdy

Wrth ystyried yr hyn a aeth yn dda a’r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud yn well y tro nesaf, mae ychydig o bethau yn aros yn fy meddwl am y digwyddiad.

Yn gyntaf, mae’r graddau y mae gan bobl ifanc ddiddordeb mewn ymchwil, ac yn enwedig ymchwil data, yn ysbrydoledig: maent yn feddwl-agored ac yn deall y gwahaniaeth y gall yr ymchwil hwn ei wneud (gweler y fideo isod i glywed eu barn). Yn ail, nid yw’r ffordd y mae data’n cael eu defnyddio o fewn iechyd ac ymchwil yn cael ei chyfathrebu’n arbennig o dda i’r bobl y cesglir y data amdanynt. Mae hyn ynddo’i hun wedi creu cyfleoedd pellach i gynnwys pobl â diabetes wrth ddatblygu’r cyfathrebiadau hyn. Ac yn olaf, er bod ymdrechion wedi’u gwneud i gynyddu amrywiaeth ymhlith y rhai a gymerodd ran, mae llawer o waith i’w wneud o hyd i gyrraedd pobl nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml mewn ymchwil.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad gymaint ag y gwnes innau fwynhau cynnal y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.

I ddarllen canfyddiadau’r gweithdy cleifion, gweler yr adroddiad llawn.

Dysgwch fwy am brosiect ‘Cost bersonol cyflyrau iechyd mewn plentyndod’.