Mae Prosiect Cyswllt Data Cynllun Setliad yr UE (EUSS) yn fenter YDG Cymru a ddeilliodd o’r angen i wella’r sylfaen dystiolaeth ar ddinasyddion yr UE yng Nghymru sy’n rhan o Gynllun Setliad yr UE. Ei nod yw cysylltu data’r Swyddfa Gartref yn ddienw â data arall a gedwir eisoes o fewn Banc Data SAIL, gan alluogi ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddeall yn well brofiadau dinasyddion yr UE sydd â Statws Preswylydd Sefydlog, ac felly i ddatblygu polisi a gwasanaethau mwy gwybodus sy’n mynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth hon a allai fod yn agored i niwed.

Elfen hanfodol o ddeall profiadau dinasyddion yr UE sydd â Statws Setledig yng Nghymru yw deall sut mae eu profiadau yn wahanol i brofiadau gweddill y boblogaeth. Mae’r cyfoeth o ddata sydd wedi’i ddadadnabod ym Manc Data SAIL yn rhoi’r cyfle i ddatblygu grŵp rheoli sy’n cyfateb yn agos i ddinasyddion Prydeinig sydd â nodweddion tebyg. Gallai hyn helpu i archwilio a oes gan ddinasyddion yr UE sydd â Statws Setledig brofiadau gwahanol i ddinasyddion Prydeinig ai peidio.