Tony Whiffen

Dadansoddwr Data

Mae Tony yn rheoli ymchwil data gweinyddol cysylltiol ym mhorth SAIL sy’n ymwneud yn bennaf â themâu ymchwil Y Blynyddoedd Cynnar a Thai a Digartrefedd. Mae’n cynorthwyo ymchwilwyr ac academyddion i ddatblygu prosiectau ymchwil a’u symud ymlaen, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â phandemig SARS-CoV-2. Mae’n cynnig cyngor a data ystadegol ar gyfer ymchwil bellach ac yn rheoli ymchwil ar gyfer y prosiectau Cysylltu Data Dechrau’n Deg, Cynnig Gofal Plant a Chefnogi Pobl. Mae Tony yn rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a bu’n gweithio gynt i Arolwg Cenedlaethol Cymru, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) ac Amcanestyniadau Aelwydydd Cymru. Cyn ymuno ag YDG Cymru, aeth ar secondiad i Brifysgol Abertawe fel Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus i ymchwilio i gyflyrau iechyd cronig a llesiant gan ddefnyddio Banc Data SAIL. Mae ganddo BSc mewn Daearyddiaeth ac MSc mewn Gwyddor Data Iechyd.