Ashley yw Arweinydd Academaidd y themâu Gofal Cymdeithasol a Heriau Cymdeithasol Mawr, sy’n cynnwys yr ymateb i bandemig Covid-19 yn ffrwd waith PAND|AR. Mae gan Ashley brofiad o weithio ar amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni cysylltu data ac ymchwil ac mae ganddo gefndir mewn cyfrifiadura ac amrywiaeth o ddisgyblaethau ymchwil, sydd wedi esblygu dros amser â’i brofiad o weithio gyda data dienw ym Manc Data SAIL er 2008, yn ogystal â data arall o holl wledydd y DU ac fel rhan o brosiectau â’r GIG, y llywodraeth, iechyd cyhoeddus, polisi, elusennau, aelodau o’r cyhoedd ac eraill. Mae Ashley yn cyflawni ei ymchwil ei hun ac yn cydweithio â phobl eraill i ddatblygu ac ymgymryd â’u prosiectau ac ymchwil ac yn cefnogi eu datblygiad a’u hyfforddiant parhaus, gan hyrwyddo trosi deilliannau’n bolisi ac effaith ar bobl a gwasanaethau ar draws nifer o ddisgyblaethau, sefydliadau a lleoliadau.
