Mae dau aelod o dîm YDG Cymru wedi cael eu cydnabod am eu gwaith arloesol yn llywio astudiaeth data poblogaeth yn y DU.

Mae Cyfarwyddwr YDG Cymru, yr Athro David Ford, ac uwch aelod o dîm Llywodraeth Cymru, Sarah Lowe, wedi derbyn OBE ac MBE yn y drefn honno, i gydnabod eu gwaith ym maes ymchwil data.

Mae’r Athro David Ford yn athro gwybodeg ac yn gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ac yn gyd-gyfarwyddwr YDG Cymru. Mae gwaith yr Athro Ford wedi trawsnewid y defnydd moesegol a diogel o ddata er lles y cyhoedd, yn y DU ac yn fyd-eang, gan alluogi ymchwil ryngddisgyblaethol ar groestoriad iechyd a’r gwyddorau cymdeithasol.

Yr Athro Ford yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a’r Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP), sy’n cynnwys biliynau o gofnodion sy’n seiliedig ar unigolion. Mae SAIL wedi dod yn gronfa ddata poblogaeth ddibynadwy, gan wella bywydau drwy ddarparu data diogel, cysylltadwy a dienw i ymchwilwyr. Yn 2024, arweiniodd cyfraniad Banc Data SAIL at harneisio data cyhoeddus i wella iechyd a lles y boblogaeth at ddyfarnu Gwobr Pen-blwydd y Frenhines fawreddog i Brifysgol Abertawe.

Mae Sarah Lowe wedi cael ei phenodi’n MBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin i gydnabod ei gwasanaeth i ymchwil data. Mae Sarah, uwch aelod yn nhîm YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru, wedi helpu i drawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr yn cael mynediad at gyfoeth data sector cyhoeddus y DU er mwyn galluogi penderfyniadau polisi mwy gwybodus sy’n gwella ac yn achub bywydau.

Arweiniodd Sarah raglen Llywodraeth Cymru i wneud y defnydd gorau o ddata presennol rhwng 2009 a 2018, gan lwyddo i gael sawl rownd o gyllid ESRC i gyflawni prosiectau cysylltu data sy’n gysylltiedig â pholisi ar gyfer Cymru. Mae gweledigaeth arloesol Sarah wedi bod yn allweddol wrth ffurfio partneriaeth YDG Cymru, gan ddod â’r llywodraeth a’r byd academaidd ynghyd o fewn un tîm.

Llongyfarchiadau i David a Sarah: mae tîm YDG Cymru yn hynod falch o’ch cyflawniadau ac yn ddiolchgar am y llwybrau ar sail data rydych chi wedi’u gosod.