Heddiw, mae YDG y DU yn cyhoeddi strategaethau pob un o bedair partneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol y DU. Bydd y cynlluniau hyn yn cefnogi ein cenhadaeth i drawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr yn cael mynediad at ddata helaeth y sector cyhoeddus yn y DU.
Dyma’r tro cyntaf i ni gyhoeddi strategaethau gan ein partneriaethau yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, rydym yn ailgyhoeddi strategaeth YDG Lloegr, a gyhoeddwyd gyntaf pan lansiwyd YDG Lloegr ym mis Ebrill 2021.
Mae YDG y DU yn cynnwys pedair partneriaeth genedlaethol (YDG yr Alban, YDG Cymru, YDG Gogledd Iwerddon ac YDG Lloegr), a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n sicrhau bod ymchwilwyr yn cael mynediad at ddata a ddarperir gan gyrff llywodraethau’r DU mewn ffordd ddiogel a chadarn, gydag ychydig iawn o risg i ddeiliaid data neu’r cyhoedd.
Darllenwch y strategaethau:
- Strategaeth YDG yr Alban 2022-2026
- Strategaeth YDG Cymru 2022-2026
- Strategaeth YDG Gogledd Iwerddon 2022-2026
- Strategaeth YDG Lloegr 2021-2026
Mae’r strategaethau cyhoeddedig ar gyfer pob gwlad yn adlewyrchu’r nodau sy’n sail i gyfnod buddsoddi 2022-26 ar gyfer rhaglen YDG y DU. Maent yn canolbwyntio ar sut y gallwn gyflawni ein nodau cyffredin, sef meithrin ymddiriedaeth a chynaliadwyedd, cefnogi ymchwil er lles y cyhoedd, gwella mynediad at ddata ar gyfer ymchwil, a darparu gwasanaeth di-dor i ymchwilwyr. Bydd Bwrdd Cyflawni’r Rhaglen yn monitro perfformiad y partneriaethau yn erbyn y strategaethau.
Mae amcanion pob gwlad wedi’u haddasu ar gyfer blaenoriaethau eu partneriaeth. Maent yn nodi strategaethau sydd ar waith i bontio’r bwlch rhwng llywodraeth a’r byd academaidd, gan alluogi polisi’r llywodraeth i gael ei lywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael.
Mae pob un o’r pedair strategaeth yn rhannu gweledigaeth YDG y DU ar gyfer 2026 – sef mai YDG y DU fydd y dewis diofyn ar gyfer cynnal data gweinyddol cysylltiedig o bob rhan o’r DU a’r llywodraethau datganoledig. Bydd y bartneriaeth yn sicrhau bod y data hyn yn hygyrch i gronfa ddofn o ymchwilwyr hyfforddedig, er mwyn hwyluso dealltwriaeth sy’n llywio polisïau ac arferion gwell fel mater o drefn.
Trwy gyfrwng YDG y DU, mae’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn cefnogi ymchwil sy’n berthnasol i bolisi ar draws pedair gwlad y DU. Mae hyn yn cynnwys cyllido academyddion sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r tair llywodraeth ddatganoledig i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu Rhaglenni Llywodraethu priodol, a chynlluniau ar gyfer cyflawni polisïau, cyfreithiau a buddsoddiad ym mhob gwlad.
Dywedodd Ed Humpherson, y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Reoleiddio yn y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, a Llysgennad YDG y DU: “Fel aelod o Fwrdd Cyflawni’r Prosiect sy’n gyfrifol am oruchwylio sut mae rhaglen YDG y DU yn cael ei chyflawni, rwy’n falch i weld y strategaethau hyn yn cael eu cyhoeddi gan baratoi’r ffordd ar gyfer y cyfnod buddsoddi nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr amcanion uchelgeisiol hyn yn cael effaith. Mae gwaith YDG y DU i ddatblygu capasiti i ddefnyddio data gweinyddol er lles y cyhoedd yn hanfodol.”
Caiff YDG y DU ei gyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU.
