Mae’r Esboniad Data hwn yn crynhoi’r profiadau a’r gwersi a ddysgwyd o weithio gyda set ddata HAPPEN (Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd) wrth gynhyrchu ymchwil i iechyd a lles plant yng Nghymru. Bwriad yr Esboniad Data hwn yw helpu i arwain ymchwilwyr y dyfodol gan ddefnyddio’r data hyn a’r adborth i ddatblygu a dogfennu set ddata.
