Mae YDG Cymru wedi lleoli ei hun, nid yn unig fel arweinydd mewn cyflwyno ymchwil dylanwadol sydd wedi llunio polisi’r llywodraeth a gwella bywydau dinasyddion Cymru o ddydd i ddydd ond hefyd fel arbenigwr mewn caffael y data sydd ei angen ar gyfer ymchwil.
Un o genadaethau’r sefydliad yw galluogi caffael data gweinyddol ar raddfa fawr ym Manc Data SAIL (Secure Anonymised Information Linkage), fel y gall ymchwilwyr ledled y DU a’r byd hefyd fanteisio ar y ffynhonnell ddata gyfoethog hon, gan ateb y cwestiynau mwyaf dybryd sy’n wynebu cymdeithas.
Mynd i’r afael â’r angen
Mae YDG Cymru wedi datblygu ei arbenigedd mewn caffael data drwy strwythuro tîm ymroddedig a all hwyluso proses symlach, gan greu llwybr at drosglwyddo data yn effeithlon. Adeiladwyd y llwybr hwn ar sail llawer o wersi a ddysgwyd o fuddsoddiadau blaenorol. Mewn iteriadau blaenorol o YDG Cymru a’i phartner, Banc Data SAIL (Secure Anonymised Information Linkage), ceisiwyd caffael data ar sail angen prosiect. Heb dîm ymroddedig, efallai y byddai ymchwilwyr a gweinyddwyr unigol wedi treulio misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd yn ceisio cael mynediad at setiau data, gan fod yn debygol o gael eu hatal gan faterion llywodraethu. Hefyd, os oedd perchennog y data’n sefydliad a oedd yn brin o amser ac arian, gallai’r ymchwilydd gyrraedd pen y daith yn waglaw.
Dod o hyd i atebion
Mae YDG Cymru wedi creu tîm wedi’i arwain gan arbenigwyr ar naill ochr y trafodiad cyrchu data; rheolwr cyrchu data wedi’i leoli yng ngweithrediad Llywodraeth Cymru YDG Cymru a rheolwr caffael data yn agos at SAIL – ill dau wedi’u lleoli’n arbennig i fynd i’r afael â materion a chwestiynau yn y broses gaffael. Yn ymuno â’r swyddi hyn y mae cydweithwyr cyfreithiol, technolegol a gweithrediadau a all arwain yn eu meysydd priodol, gan hefyd weithio gyda’u cymheiriaid cyfatebol ym mherchennog y data i sicrhau bod caffael data yn digwydd mewn modd llyfn ac amserol.
Dywedodd Cynthia McNerney, Pennaeth Caffael a Darparu Data YDG Cymru, sy’n gweithio ochr yn ochr â SAIL: “Mae cael perchennog proses i reoli agweddau technegol y caffael data—o gysylltu â chydweithwyr diogelwch data a chydweithwyr cyfreithiol i’r staff technegol—yn rhoi un pwynt cyswllt di-dor i berchnogion data ar gyfer rhannu data.”
Ynghyd â thîm sydd wedi’i ymgorffori yn y llywodraeth, mae’n caniatáu defnyddio ffrydiau gwaith a pherthnasoedd blaenorol yn y broses gaffael.
Dywedodd Matthew Davies, Rheolwr Cyrchu Data a Dadansoddwr Data Cysylltiedig YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru: “Mae YDG Cymru yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd academyddion a llywodraeth yn cydweithio’n agos. Gall y tîm sydd wedi’i wreiddio yn Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei gysylltiadau i sicrhau bod anghenion data’n cael eu bodloni ar gyfer ymchwil academaidd hanfodol.”
Mae YDG Cymru wedi canolbwyntio ar gaffael data dienw gan sefydliadau mawr o fewn y llywodraeth, megis y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru (Cafcass Cymru) a Cafcass Lloegr. Mae canlyniadau’r ymchwil sy’n deillio o’r caffaeliadau data hyn yn dangos gwerth posibl data gweinyddol o bob rhan o’r system gyfiawnder, gan wella’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i helpu i fynd i’r afael â materion polisi cymdeithasol a chyfiawnder allweddol. Mae adroddiadau ymchwil sy’n defnyddio data Cafcass Cymru, er enghraifft, wedi bod ymhlith y cyntaf i gysylltu cofnodion llys teulu â data mamolaeth ac iechyd yng Nghymru. Mae argaeledd data’r Cafcass yn agor amrywiaeth o bosibiliadau ymchwil i ddeall yn well, darparu tystiolaeth ac yn y pen draw gwella bywydau’r rheiny sy’n gysylltiedig â’r system cyfiawnder teuluol.
Mae cydweithio â buddsoddiadau data mawr eraill yn dangos nad yw YDG Cymru yn gweithredu ar ei ben ei hun gan gyflwyno ei allbynnau ei hun, ond yn hytrach ei nod yw dod o hyd i fudd a rennir i’r ddwy ochr, sy’n hybu’r broses caffael data.
Gall YDG Cymru drafod y trosglwyddiadau mawr hyn o ddata drwy roi lefel benodol o sicrwydd i sefydliadau, sy’n cael ei adeiladu ar ei bartneriaethau parhaus gyda’r sefydliadau data mawr uchaf eu parch fel y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae’r data gweinyddol y mae YDG Cymru yn ei gaffael yn cael ei gadw ar Fanc Data SAIL, sydd wedi storio data cleifion GIG Cymru ers 2007. Gall unrhyw berthynas bosibl newydd gyda pherchennog data weld yr hanes hir hwn o fancio data, cyswllt a diogelu a theimlo’n ddiogel gan wybod bod eu data’n cael ei gadw’n ddiogel.
Gan adeiladu ar y lefel honno o ymddiriedaeth, mae Banc Data SAIL wedi ennyn meincnodau newydd mewn cyswllt a diogelu data, gan gadarnhau ei rôl fel llwyfan data cynhwysfawr. Ym mis Ionawr 2020, daeth y banc data yn Brosesydd Achrededig o dan delerau Deddf Economi Ddigidol 2017, ac ym mis Gorffennaf cwblhaodd asesiad Pecyn Cymorth Diogelwch a Diogelu Data’r GIG i ddangos perfformiad yn erbyn 10 safon diogelwch data y Gwarcheidwad Data Cenedlaethol.
Y canlyniadau
O gyfuno’r cyfan – tîm caffael data pwrpasol, strategaeth o gydweithio ar gyfer budd a rennir, a sicrwydd a adeiladwyd ar sail partneriaethau hirsefydlog—mae’r strategaethau hyn yn creu caffael data cyflym, ar y cyfan. (Tua chwe mis yw caffael data cyflym.) Mae caffael data’n gyflym yn bwysig ar gyfer prosiectau ymchwil llwyddiannus oherwydd, yn gyffredinol, ni all cyllidwyr a rhanddeiliaid amgyffred pam mae caffael data yn cymryd cyhyd, gan fod trosglwyddo data yn ymddangos fel trafodiad syml. Mae caffael data amserol hefyd yn sicrhau nad yw’r brwdfrydedd cychwynnol o greu partneriaeth newydd a rhannu data yn mynd ar goll wrth i amser fynd heibio.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae caffaeliad data wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy oherwydd Covid-19 a’r brys i gyflwyno canlyniadau ymchwil i Grŵp Cynghori Technegol (TAG) Covid-19 Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) y DU. Sicrhawyd llawer o setiau data newydd ar gyfer ymchwil Covid-19 ac mae’r amlder y caiff setiau data presennol eu trosglwyddo i Fanc Data SAIL wedi cyflymu, ac mae rhai yn newid o ddiweddariadau chwarterol i ddyddiol o’r data sydd ar gael i ymchwilwyr.
Wrth i’r achosion o Covid-19 barhau, bydd YDG Cymru a Banc Data SAIL yn parhau i roi blaenoriaeth i brosiectau ymchwil sy’n gysylltiedig â Covid-19 a chefnogi caffael data cysylltiedig.
