Mewn adroddiad Cip ar Ddata newydd, mae ymchwilwyr o YDG Cymru wedi archwilio sut y gellir cyfuno’r data a gesglir gan ddisgyblion am eu cynlluniau gyrfaol â data gweinyddol a gesglir yn rheolaidd i gynnig dealltwriaeth newydd am eu gwahanol amgylchiadau a galluoedd. Mae’r dadansoddiad yn cadarnhau pwysigrwydd darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd mewn ysgolion, yn enwedig wrth gefnogi plant o aelwydydd incwm isel i’w helpu i lywio eu meddwl am yrfaoedd posibl.
Yng Nghymru, mae Gyrfa Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol a diduedd ar gyfer gyrfaoedd. Wedi’i sefydlu yn 2012, ei ffocws fu cefnogi amcanion strategol Llywodraeth Cymru sef sicrhau dilyniant parhaus pobl ifanc trwy addysg ac i gael gwaith, neu addysg bellach neu hyfforddiant. Mae’n blaenoriaethu’r rhai sydd yn y perygl mwyaf o ymddieithrio.
Yn ystod Cyfnod Allweddol 4, caiff disgyblion yng Nghymru’r cyfle i gwblhau arolwg ‘Gwirio Gyrfa’ Gyrfa Cymru. Mae’r offeryn hwn, a gwblheir gan amlaf yn ystod Blwyddyn 10, yn helpu Cynghorwyr Gyrfaoedd i nodi’r disgyblion hynny y mae angen cymorth arnynt fwyaf a’u gofynion gwasanaeth tebygol. Drwy gyfuno ymatebion o arolwg Gwirio Gyrfa a chofnodion addysg gweinyddol, mae’r ymchwilwyr wedi creu cronfa ddata o’r ymatebion Gwirio Gyrfa ar gyfer dros 90,000 o ddisgyblion. Mae’n cwmpasu pedair carfan o ddisgyblion o flynyddoedd academaidd 2015/16 hyd at 2018/19.
Mae’r Cip ar Ddata newydd yn defnyddio’r set ddata gysylltiedig hon i archwilio’r anawsterau sy’n wynebu disgyblion o aelwydydd incwm isel wrth bontio o addysg orfodol. Mae’r dadansoddiad yn datgelu bod disgyblion PYDd yn fwy tebygol o ddweud bod yna bethau sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu nodau ac nad oedd eu teulu yn cefnogi eu syniadau. Yn fwyaf arwyddocaol, mae’r dadansoddiad yn datgelu bod disgyblion PYDd yn teimlo y gallai diffyg arian gyfyngu ar eu dewisiadau yn y dyfodol. Mae’n debyg bod plant o aelwydydd incwm isel hefyd yn arbennig o agored i fynegi dewisiadau ar gyfer gwaith sy’n cydredeg ag ystrydebau traddodiadol sy’n seiliedig ar rywedd.
Darllenwch yr adroddiad Cip ar Ddata Deall gwreiddiau anfantais y farchnad lafur yng Nghymru.
