Mae Mewnwelediad Data YDG Cymru newydd a gynhaliwyd gan dîm prosiect Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) wedi archwilio ymweliadau meddygon teulu cysylltiedig ag iechyd meddwl ymhlith poblogaeth EUSS yng Nghymru, o gymharu â dinasyddion a anwyd yng Nghymru.
Mae’r dadansoddiad rhagarweiniol yn edrych ar unigolion a anwyd yng Nghymru sy’n byw yng Nghymru o gymharu ag unigolion a anwyd yn yr UE sy’n byw yng Nghymru er mwyn pennu a oedd nifer y digwyddiadau iechyd meddwl yr adroddwyd amdanynt, yr oedran yn ystod digwyddiadau iechyd meddwl cyntaf a’r risg o iselder, gorbryder ac iselder cymysg, a gorbryder yn wahanol ar draws grwpiau.
Archwiliodd y prosiect y gwahaniaethau rhwng unigolion a anwyd yng Nghymru ac unigolion a anwyd mewn gwledydd UE14 ac UE8. Mae gwledydd UE14 yn cynnwys Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Sbaen a Sweden. Mae gwledydd UE8 yn cynnwys y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Slofacia, a Slofenia.
Mae canfyddiadau cychwynnol yn dangos gwahaniaethau ystadegol arwyddocaol mewn digwyddiadau iechyd meddwl a adroddwyd rhwng unigolion a anwyd yng Nghymru ac unigolion a anwyd yng ngwledydd UE14 ac UE8, ynghyd â gwahaniaethau rhwng unigolion a anwyd mewn gwledydd UE14 ac unigolion a anwyd mewn gwledydd UE8. Canfu’r dadansoddiad hefyd:
- Nododd unigolion a anwyd yng ngwledydd yr UE nifer uwch o ddigwyddiadau iselder a gorbryder cymysg o gymharu ag unigolion a anwyd yng Nghymru.
- Roedd unigolion a anwyd mewn gwledydd UE14 yn iau adeg y digwyddiad iselder cyntaf o gymharu ag unigolion a anwyd mewn gwledydd UE8. Roedd unigolion a anwyd yng Nghymru yn iau adeg y digwyddiad iselder cyntaf o gymharu ag unigolion a anwyd mewn gwledydd UE14. Roedd unigolion a anwyd mewn gwledydd EU8 yn iau adeg y digwyddiad gorbryder cyntaf o gymharu ag unigolion a anwyd yng Nghymru.
- O gymharu â Chymru, dim ond gwledydd UE8 sydd wrth risg uwch o ddioddef digwyddiad iselder, gorbryder ac iselder cymysg, a gorbryder o fewn cyfnod yr astudiaeth. Roedd unigolion o wledydd UE8 hefyd wrth risg uwch o gymharu â’r rhai o wledydd UE14.
Mae manylion llawn y dadansoddiad rhagarweiniol i’w gweld yma.
