Bellach, gall ymchwilwyr achrededig wneud cais i ddefnyddio set ddata gysylltiedig y llysoedd teulu a Cafcass. Mae’r adnodd helaeth hwn yn deillio o gytundeb rhannu data rhwng y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a Cafcass (y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) o ganlyniad i’r rhaglen Data First .

Mae set ddata gysylltiedig Data First y llysoedd teulu a Cafcass yn cael ei chefnogi gan gyfres o ddeunyddiau i alluogi ymchwilwyr achrededig – ar draws y llywodraeth a’r byd academaidd – i wneud y defnydd gorau o’r data hyn i wella ein dealltwriaeth o’r system gyfiawnder. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys canllawiau defnyddwyr Data First a chatalog data (ar gyfer set ddata llysoedd teulu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder), sy’n disgrifio natur ac ansawdd y data a rennir. Mae catalog data Cafcass yn rhoi trosolwg sylfaenol o’r meysydd data sydd ar gael i’w defnyddio (mae catalog data manylach yn cael ei ddatblygu).

Mae Data First yn rhaglen gysylltu data arloesol a gynhelir dros gyfnod o dair blynedd, dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac fe’i cyllidir gan Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Uunedig (YDG y DU). Nod y prosiect yw datgloi potensial y data helaeth a gedwir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gysylltu setiau data gweinyddol o bob rhan o’r system gyfiawnder a thu hwnt, er mwyn llywio polisi’n well.

Mae’r allbwn diweddaraf hwn yn dilyn rhyddhau set ddata cysylltiedig y system prawf a chyfiawnder troseddol, a wnaed ar gael yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2022 i ymchwilwyr achrededig wneud cais i’w defnyddio.

Dywedodd Lisa Harker, Cyfarwyddwr, Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield: ”Mae’r llysoedd teulu yn gwneud rhai o’r penderfyniadau pwysicaf ym mywydau plant a theuluoedd, felly mae’n hanfodol ein bod yn gallu archwilio pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud, am bwy, ledled Cymru a Lloegr. Bydd y set ddata gysylltiedig hon yn galluogi ymchwilwyr i daflu goleuni ar y materion hyn, gan wella tryloywder y system cyfiawnder teuluol; a helpu’r sawl sy’n gweithio o fewn y system i weld patrymau a thueddiadau ehangach, a llywio ffyrdd o wella bywydau plant a’u teuluoedd.”

Ynghylch y data

Mae set ddata gysylltiedig Data First y llysoedd teulu a Cafcass yn cynnwys gwybodaeth am achosion cyfraith gyhoeddus a chyfraith breifat a’u canlyniadau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, ynghyd ag achosion mabwysiadu, a nodweddion priodas ac ysgariad.

Mae set ddata llysoedd teulu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn darparu data ar achosion llysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Ionawr 2021. Bydd y set ddata hon yn galluogi ymchwilwyr i ddadansoddi achosion gan gynnwys y math o achos, dyddiadau allweddol, achosion cysylltiedig, a’r llys gwreiddiol. Hefyd, bydd ymchwilwyr yn gallu archwilio gwybodaeth am ddigwyddiadau o fewn achosion, er enghraifft, gwrandawiadau, gorchmynion a wneir gan y llys a phrosesau gweinyddol. Yn ogystal, mae’r set ddata’n cynnwys gwybodaeth wedi’i dad-adnabod am bobl sy’n ymwneud ag achosion llys megis eu nodweddion (oedran, rhyw a’r ardal lle maent yn byw) a’u rôl yn yr achos.

Mae’r set ddata wedi’i dad-ddyblygu, sy’n golygu bod achosion lluosog o’r un person yn ymddangos gerbron llys teulu rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Ionawr 2021 yn cael eu hadnabod a rhoddir dynodydd unigryw iddynt. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i sefydlu a yw’r un defnyddiwr wedi dod gerbron llys teulu fwy nag unwaith, yn ogystal ag amlder, diben a chanlyniadau’r ymddangosiadau hyn, gan sicrhau ar yr un pryd bod y data’n parhau wedi’u dad-adnabod.

Mae data llysoedd teulu Cafcass yn ymwneud ag achosion rhwng 1 Ebrill 2007 ac 1 Rhagfyr 2021. Mae’r set ddata’n cynnwys gwybodaeth ar lefel achosion, megis a ddônt o dan gyfraith gyhoeddus neu gyfraith breifat, y math o gais, unrhyw ganlyniadau cyfreithiol a gofnodwyd, a’r math o waith a gyflawnwyd gan Cafcass. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddienw ar lefel person ar gyfer oedolion a phlant sydd naill ai’n geisydd, yn atebydd, neu’n destun cais mewn achos.

Bydd set ddata gysylltiedig Data First y llysoedd teulu a Cafcass, yn ogystal ag allbynnau presennol ac yn y dyfodol gan Data First, yn helpu ymchwilwyr i ddeall yn well y profiadau a geir gan ddefnyddwyr y system cyfiawnder o’r dechrau i’r diwedd. Gall hyn yn ei dro ddarparu tystiolaeth bellach i danategu datblygiad polisïau’r llywodraeth ac ysgogi cynnydd gwirioneddol wrth fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol a phroblemau yn ymwneud â chyfiawnder.

Dywedodd Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr YDG y DU: “Mae rhaglen Data First yn wirioneddol arloesol. Mae’r cydweithrediad rhwng tîm Data First o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cafcass a Banc Data SAIL i greu’r set ddata gysylltiedig newydd hon yn arddangos y ffocws parhaus ar roi mynediad diogel at ddata er mwyn cael dealltwriaeth well o brofiadau pobl o’r system cyfiawnder. Wrth sicrhau bod hyn ar gael i ymchwilwyr achrededig trwy Fanc Data SAIL, rydym yn cynyddu’r potensial ar gyfer ymchwil effeithiol a newidiadau mewn polisi a allai ddod â buddion gwirioneddol i deuluoedd yn y byd real.”

Sut i gael mynediad at y set ddata

Os yw ymchwilwyr eisiau cael mynediad diogel at unrhyw un o’r setiau data a lunnir gan y rhaglen Data First, yn gyntaf rhaid iddynt ddod yn ymchwilydd achrededig wrth lenwi’r ffurflenni perthnasol gan Awdurdod Ystadegau’r DU a’u cyflwyno i research.support@ons.gov.uk.

Os ydych eisoes yn ymchwilydd achrededig, gallwch wneud cais i gael mynediad at y data penodol sydd eu hangen ar gyfer eich prosiect o Fanc Data SAIL.