Mae ADR UK yn falch iawn o gyhoeddi 20 o gyfleoedd efrydiaethau PhD i’w cynnal gan oruchwylwyr ar draws 13 o Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol (DTPs) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Bydd tair o’r ysgoloriaethau ymchwil yn cael eu cynnal yng Nghymru a chânt eu cefnogi gan arweinydd Academaidd Blynyddoedd Cynnar YDG Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Sinead Brophy, Dr Amy Mizen o Brifysgol Abertawe a’r Athro Donald Forrester o Brifysgol Caerdydd, gan ddefnyddio data gweinyddol dienw a gedwir o fewn Banc Dara SAIL.
Bydd pob un o’r 20 ysgoloriaeth ymchwil PhD yn defnyddio setiau data blaenllaw cysylltiedig newydd ADR UK i ateb cwestiynau ymchwil sy’n berthnasol i bolisi. Disgwylir i fyfyrwyr ddechrau eu PhD ym mis Hydref 2023 a chânt eu hariannu trwy fuddsoddiad o £1.9 miliwn gan ADR UK.
Meddai’r Athro John Harrington, Cyfarwyddwr DTP Cymru: “Rydym yn falch o gael y cyfle hwn i adeiladu ar ein cryfderau presennol mewn cydweithrediad ag YDG Cymru a Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, i wella ein gallu yn DTP Cymru ESRC ar gyfer ymchwil sy’n defnyddio data gweinyddol, ac edrychaf ymlaen at ymuno â’r garfan hon ledled y DU.
“Mae data gweinyddol yn gyfle amhrisiadwy ar gyfer ymchwil sydd â’r potensial i wella bywydau, fel y mae ymchwilwyr ar lwybr y DTP ar Iechyd a Lles Gwyddor Data wedi dangos dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n falch o weld cyfleoedd fel ysgoloriaethau ymchwil PhD a ariennir gan ADR yn y DU, a fydd yn helpu i ddileu rhwystrau a rhoi’r sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen ar ymchwilwyr i wneud ymchwil gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig.”
Dywedodd Lucy Griffiths, Athro Cyswllt Iechyd Plant ac Arweinydd Academaidd Prifysgol Abertawe ar gyfer PHD Cymru ESRC: Mae’n newyddion gwych bod tair o’r ysgoloriaethau ymchwil hyn wedi’u dyfarnu i DTP Cymru, gan alluogi mwy o ddefnydd o ddata gweinyddol cysylltiedig a gedwir o fewn Banc Data SAIL. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r myfyrwyr wrth iddynt gychwyn ar y prosiectau cyffrous, gwirioneddol graff hyn.
“Mae dau o’r prosiectau’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r set ddata Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae defnyddio’r data hyn yn hanfodol ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal – ymchwil sy’n hanfodol i sicrhau gofal da a chanlyniadau cadarnhaol. Mae’r trydydd prosiect yn defnyddio data amgylcheddol i archwilio’r cysylltiadau rhwng llygredd aer ac iechyd meddwl.”
Darllenwch yr erthygl lawn yma
