Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol YDG UK 2023 – 2024 yr wythnos hon, mae Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet wedi dangos ei chefnogaeth i’r gwaith a wneir yng Nghymru ac ar draws partneriaeth YDG UK.
Mae Adroddiad Blynyddol YDG UK 2023-2024 yn myfyrio ar y prosiectau uchelgeisiol a’r cynnydd sylweddol a ddangoswyd ar draws partneriaeth YDG UK yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n bleser gennyf nodi bod Adroddiadau Blynyddol 2023-2024 Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) y DU wedi’u cyhoeddi yr wythnos hon – gan gynnwys y cynnydd a wnaed gan YDG Cymru – ein partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch.
Mae’r adroddiadau hyn yn dangos gwerth cysylltu data gweinyddol ar gyfer ymchwil. Yng Nghymru rydym yn awyddus i wneud mwy o ddefnydd o ddata gweinyddol, megis cofnodion meddygon teulu, gwybodaeth am gyrhaeddiad ysgolion, neu dreth car.
Mae llawer o gynnydd wedi bod ers cyhoeddi ein Strategaeth YDG Cymru a’r Rhaglen Waith Arfaethedig (2022-2026) a lansiwyd gennyf yn y Senedd ar 1 Rhagfyr 2022. Mae llwyddiant ein partneriaeth wedi’i fynegi’n glir yn yr Adroddiadau Blynyddol diweddaraf hyn, sy’n amlygu astudiaethau achos Cymreig a cherrig milltir a gyflawnwyd yng Nghymru.
Mae ymchwil megis dadansoddiad data cysylltiedig ar ddiogelu ym maes cam-drin domestig, ymyriadau i atal digartrefedd, a theithio llesol, yn darparu tystiolaeth bwysig a fydd yn llywio penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn y dyfodol.”
