Mae Faye Gracey yn arwain ar gysylltu data ar gyfer ymchwil o fewn Llywodraeth Cymru ac yn rheoli tîm YDG Cymru Llywodraeth Cymru. Mewn penodiad diweddar, mae Faye bellach yn aelod o Gyngor Cymdeithas Werthuso’r DU. Wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30oed, dyma Faye yn sôn am ei rôl yng Nghymdeithas Werthuso’r DU a gwerth cynyddol cysylltu data mewn gwaith gwerthuso.

Byddaf yn onest, euthum i ddigwyddiad Cymdeithas Werthuso’r DU am y tro cyntaf â chymhelliant amharod braidd gan y cynnig o fwyd am ddim ond rwy’n falch iawn fy mod wedi gwneud hynny. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog ac fe ysbrydolodd fy angerdd i ymwneud mwy â gwerthuso. Ers hynny rwyf wedi ennill mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes gwerthuso, gan gynnwys gweithio mewn asiantaeth ymchwil breifat, arolygiaeth, y trydydd sector, y cyfryngau, ac ar hyn o bryd fel Uwch Brif Swyddog Ymchwil yn y gwasanaeth sifil yn arwain tîm YDG Cymru Llywodraeth Cymru o 25 o staff.

Drwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi elwa’n fawr o ddigwyddiadau a deunyddiau Cymdeithas Werthuso’r DU, ac rwy’n gwybod bod llawer o gydweithwyr a phartneriaid eraill wedi elwa hefyd. Mae eu datganiad cenhadaeth yn cyd-fynd yn agos â fy niddordebau fel dadansoddwr llywodraeth. Roedd eisiau rhoi yn ôl a chefnogi’r Gymdeithas a’r gymuned werthuso ehangach arnaf i – felly roeddwn i’n falch iawn o gael fy ethol yn Aelod o Gyngor Cymdeithas Werthuso’r DU yr haf diwethaf.

Byddwn i wrth fy modd yn helpu YDG i ffurfio rhagor o gysylltiadau â Chymdeithas Werthuso’r DU. Rwy’n meddwl y gallai dadansoddi data cysylltiedig helpu i wella cadernid gwerthusiadau crynodol ac asesiadau effaith, gan ategu dulliau ymchwil eraill.

Er enghraifft, yng Nghymru rydym wedi cysylltu â llwyddiant mawr data gweinyddol wedi’u dad-nodi ar blant sy’n derbyn gofal plant a ariennir gan y llywodraeth â data cyrhaeddiad ysgol. Canfu ein dadansoddiad fod y rhai â lefel presenoldeb uwch yn tueddu i fodloni eu canlyniadau disgwyliedig ym mhob maes dysgu mewn asesiadau ysgol mynediad yn amlach na’r rhai â lefelau presenoldeb is. Helpodd hyn i lywio’r penderfyniad i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r dadansoddiad hwn yn un o nifer o ddarnau o waith y mae YDG Cymru yn eu cyflawni i helpu i werthuso rhaglenni blaenllaw Llywodraeth Cymru. Mae ein rhaglen waith arfaethedig YDG Cymru 2022-2026 yn cynnwys llawer o enghreifftiau, er enghraifft, byddwn yn edrych ar salwch anadlol ar y cyd â chyflwyno deddfwriaeth 20mya yng Nghymru a’r effaith hirdymor ar iechyd a chyflogaeth o’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal.

Rwy’n meddwl y dylai pob asesiad gwerthuso ystyried ymchwil data gweinyddol. Wrth gwrs, ni fydd bob amser yn ymarferol, ond hyd yn oed yn yr achosion hyn, gallai fod cyfleoedd i roi hysbysiadau preifatrwydd ar waith a threfniadau eraill i gael data gweinyddol i Amgylchedd Ymchwilwyr Dibynadwy er mwyn agor dadansoddiad data cysylltiedig yn y dyfodol.

Rwy’n gobeithio y bydd y llwyfan y gall y Cyngor ei ddarparu yn fy helpu i weiddi’n uwch am effaith a gwerth YDG (y siaradais amdano yng Nghynhadledd Cymdeithas Werthuso’r DU y llynedd, ac yn Research Matters yn gynharach eleni).

Rwy’n gobeithio tynnu ar fy mhrofiad fel Ymddiriedolwr i’r Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol (SRA) (2014-2021) gan fod y Gymdeithas yn dilyn cyfnod tebyg o dwf a thrawsnewid a hithau newydd sicrhau statws elusennol. Rwyf wedi helpu’r SRA â’u cynlluniau pen-blwydd mawr, ac rwy’n llawn cyffro i fod yn gweithio gyda’r Gymdeithas ar gynlluniau i ddathlu eu30ain blwyddyn ac i godi ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd gwerthuso.

Os nad ydych yn aelod o Gymdeithas Werthuso’r DU eto, ewch i gwerthuso.org.uk i weld llawer o resymau dros ymuno.