Mae’r tîm y tu ôl i raglen waith Heriau Cymdeithasol Mawr YDG Cymru wedi arwain astudiaeth sydd wedi creu cronfa sylfaen ethnigrwydd genedlaethol gynhwysfawr i Gymru.
Mae cronfa sylfaen ethnigrwydd genedlaethol Cymru yn ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol a wnaed gan y tîm, sydd wedi’u dogfennu mewn papur diweddar.
Mae’r Athro Ashley Akbari, Hoda Abbasizanjani a Stuart Bedston, sydd wedi’u lleoli o fewn tîm Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, ymhlith tîm sydd wedi trosoli 22 mlynedd o ddata iechyd a data gweinyddol gan dros 4.2 miliwn o unigolion a ffynonellau data lluosog i adeiladu ased data parod ymchwil hydredol (RRDA) o gofnodion grwpiau ethnig wedi’u cysoni ar gyfer poblogaeth Cymru.
Mae’r RRDA wedi helpu i fynd i’r afael â’r angen dybryd am well data grŵp ethnig mewn ymchwil, gan sicrhau cysondeb a dibynadwyedd i ymchwilwyr. Mewn trafodaeth â chydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru a chydweithwyr ledled Cymru a’r DU ehangach, bydd y tîm yn parhau i ddatblygu’r RRDA yn rhan o raglen waith Heriau Cymdeithasol Mawr YDG Cymru i lywio ymchwil i anghydraddoldebau.
I ddarllen rhagor o fanylion am waith y tîm a’r papur diweddaraf sy’n amlinellu’r gwaith o adeiladu cronfa sylfaen ethnigrwydd genedlaethol RRDA, ewch i.
