Mae cyfres o adroddiadau sy’n cysylltu data dienw’r llywodraeth ar gamddefnyddio sylweddau a thriniaeth i wella’r cymorth a roddir i bobl ag anghenion cymhleth a rhyng-gysylltiedig wed cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae Canlyniadau Gwell trwy Ddata Cysylltiedig, neu BOLD, yn rhaglen a arweinir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ariennir gan Drysorlys EF y DU, gyda’r gydran Gymreig yn cael ei rhedeg gan dîm YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Banc Data SAIL. Yng Nghymru, mae BOLD yn cael arian cyfatebol gan ADR UK.

Mae’r rhaglen BOLD wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â’r heriau a all godi pan fydd data ar bobl â materion cymhleth yn cael eu cadw mewn gwahanol adrannau o’r llywodraeth, sefydliadau a gweinyddiaethau ac nad ydynt yn cael eu rhannu, sy’n golygu na ellir darparu cymorth yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar llinyn o adrodd ar ddata: lleihau aildroseddu, camddefnyddio sylweddau, cynorthwyo dioddefwyr troseddau, a lleihau digartrefedd, ac mae’n darparu data cyfoethog i helpu i ddeall y berthynas rhwng yr ardaloedd, gan helpu gwasanaethau cymorth i fod yn fwy gwybodus am y ffordd orau o gynorthwyo pobl sydd ag anghenion na ellir eu trin yn effeithiol gan un adran neu sefydliad yn unig.

Mae’r adroddiadau’n cynnwys:

Arweinir gan YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru

Arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Bydd y canfyddiadau’n cael eu trafod mewn arddangosfa BOLD a gynhelir yfory, 27 Mawrth, yng Nghaerdydd. Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at arweinwyr polisi a chynllunwyr o fewn Llywodraeth Cymru, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a gwasanaethau iechyd y cyhoedd.