Mae prosiect Cyswllt Data Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) wedi rhyddhau adolygiad o’r llenyddiaeth bresennol ar brofiadau gwladolion o’r UE yn y DU, cyn ac ar ôl refferendwm yr UE 2016.
Mae’r adolygiad llenyddiaeth yn canolbwyntio ar feysydd iechyd; addysg a phlant; cyflogaeth; budd-daliadau a lles; a phrofiadau dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU. Bydd yn helpu hysbysu tîm y prosiect o ran eu dadansoddiad o ddata sy’n ymwneud â dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru sy’n rhan o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Mae Prosiect Cyswllt Data EUSS yn fenter ADR Cymru a ddechreuwyd yn sgil yr angen i wella’r sylfaen dystiolaeth ar y grŵp hwn o ddinasyddion. Ei nod yw cysylltu data’r Swyddfa Gartref â data arall sydd eisoes yn cael ei gadw yn SAIL Databank. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddeall yn well brofiadau dinasyddion yr UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog a phreswylydd sefydlog. Bydd y mewnwelediadau hyn yn arwain at bolisi a gwasanaethau mwy gwybodus sy’n mynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth hon a allai fod yn agored i niwed.
Cynhaliwyd yr adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio cyfanswm o 80 o bapurau, gan ddatgelu ar adegau fewnwelediadau cymhleth yn y categorïau a astudiwyd. Er enghraifft, mae tystiolaeth yn awgrymu bod dinasyddion yr UE yn cyfrannu at economi’r DU mewn galwedigaethau medrus a di-grefft, ond mae gan lawer ohonynt ormod gymwysterau ar gyfer eu swydd – yn enwedig y rhai mewn gwaith di-grefft.
Mae cyflogaeth dinasyddion yr UE yn y farchnad lafur yn amrywiol o ran y sector cyflogaeth, statws economaidd-gymdeithasol, a hyd eu cyfnod yn y DU. Mae llawer o’r dystiolaeth yn dangos bod y rheiny o wledydd yr UE15 yn fwy tebygol o fod mewn galwedigaethau medrus na’r rheiny o wledydd a ymunodd â’r UE yn dilyn ehangu 2004. Gwnaeth y tîm ymchwil bwynt allweddol nad yw dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU yn grŵp unffurf. Nodwyd profiadau amrywiol y rheiny a gafodd eu cynnwys yn yr adolygiad a’r grwpiau nad ydynt o bosibl yn cael eu cynnwys yn fanwl yn y llenyddiaeth gyhoeddedig. Yn gyffredinol, mae’r adolygiad yn rhoi cipolwg ar sut mae gwladolion yr UE sy’n byw yn y DU yn llywio eu bywydau, effaith refferendwm yr UE, a Chynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a ddeilliodd o hynny.
