Mae Cynhadledd Rhwydwaith Rhyngwladol Cysylltedd Data Poblogaeth (IPDLN) 2022 wedi dechrau’n llwyddiannus yng Nghaeredin gydag amrywiaeth helaeth o areithiau a gweithdai.

Cynhelir y gynhadledd rhwng dydd Mercher 7 Medi a dydd Gwener 9 Medi, a daw ag ymchwilwyr, dadansoddwyr a gweithwyr data proffesiynol ynghyd o bob rhan o’r byd. Hyd yn hyn, mae dros 400 o gynrychiolwyr o 15 gwlad wedi mynychu, gyda mwy fyth yn ymuno â’r sesiynau o bell.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Unedig (YDG y DU) yn cyfarwyddo IPDLN ar gyfer 2021 – 2022. Mae’r Rhwydwaith yn cael ei gyfarwyddo ar y cyd gan Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr YDG y DU, a’r Athro Chris Dibben, Cyd-gyfarwyddwr YDG yr Alban.

Agorwyd y gynhadledd ar ddydd Mercher â phrif araith gan yr Athro Stefan Bender, Pennaeth y Ganolfan Data a Gwasanaeth Ymchwil yn Deutsche Bundesbanke yn yr Almaen. Trafododd bwysigrwydd amgylcheddau ymchwil y gellir ymddiried ynddynt a’r Fframwaith Pum Diogel, ac effaith ymchwil data wrth lywio polisïau gwell.

Dywedodd Stefan: “Defnyddiodd fy mhrif araith thema’r gynhadledd, sef “Llywio Polisi ac Arferion”, a’i gosod mewn perthynas â’r hyn y mae’r Ganolfan Data a Gwasanaeth Ymchwil yn Bundesbank yn ei wneud. Dylai rhannu data gynnwys dadansoddi cost a budd. Rydych eisiau gwneud y mwyaf o’r budd, er enghraifft o ran argymhellion data, rhwydwaith data, neu ffactor effaith set ddata.

“Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gostwng costau ar gyfer yr ymchwilydd a’r darparwr data mewn tri dimensiwn: sef proses, dogfennaeth, awtomeiddio. Roedd enghreifftiau o’r cyflwyniad yn rhoi cipolwg ar sut y gellir trosi data i wybodaeth er lles cymdeithas.”

Drwy gydol yr wythnos, mae cynrychiolwyr yn dewis o blith amrywiaeth o weithdai a thrafodaethau i archwilio themâu’r gynhadledd. Mae’r sesiynau’n ymdrin ag ystod eang o bynciau, o gysylltu data i ddeall cymunedau gwahanol yn well, llywio polisi iechyd, ac ymgysylltu â’r cyhoedd ledled y byd. Gyda chymaint o ddiwydiannau gwahanol yn cael eu cynrychioli ledled y maes gwyddor data, mae’r sesiynau cyfochrog yn rhoi cyfle i gyfranogwyr rannu gwybodaeth a chyfnewid syniadau, gyda’r nod yn y pen draw o ddefnyddio ymchwil data i lywio polisi ac arferion.

Mae Dr Pia Hardelid yn ymchwilydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain sy’n arwain prosiect newydd a gyllidir gan YDG y DU sy’n canolbwyntio ar effaith amgylcheddau ar iechyd ac addysg plant. Dywedodd: “Mae wedi bod yn gyfle braf iawn i bobl sydd heb siarad neu ofyn cwestiynau mewn cynadleddau o’r blaen gael y profiad hwnnw mewn amgylchedd cyfeillgar.”

Ar brynhawn dydd Mercher, cafwyd prif araith gan Hans-Erik G. Aronson, Cyfarwyddwr Cam 1 rhaglen DARE UK (Data and Analytics Research Environments UK). Caiff y rhaglen ei chyllido gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, a nod DARE UK yw dylunio a darparu seilwaith ymchwil data cenedlaethol mwy cydgysylltiedig ar gyfer y DU. Yn ddiweddar, mae’r rhaglen wedi cyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion o gam cyntaf y gwaith.

Mae rhaglen ddigwyddiadau Cynhadledd IPDLN 2022 ar gyfer heddiw a dydd Gwener yr un mor gyffrous, gyda phrif areithiau gan ymwelwyr rhyngwladol gan gynnwys Dr Mauricio Barreto a’r Athro Linnet Taylor, yn ogystal â siaradwyr o’r DU gan gynnwys Rachel Plachcinski a’r Athro Syr Ian Diamond.

Bydd y dyddiau sy’n weddill hefyd yn cynnwys digon o drafodaethau pellach, gan gynnwys nifer o gyflwyniadau gan ymchwilwyr YDG y DU.

Dywedodd Alastair McAlpine, Cyd-gyfarwyddwr YDG yr Alban: “Rwy’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd o bob rhan o’r byd, gyda phawb yn ceisio gwneud pethau’n well â data. Roedd y sesiwn a gynhaliais innau’n ymwneud yn benodol â sut i gysylltu data yn well. Mae cymaint o resymau pam mae angen i ni rannu’r straeon hyn, fel y gallwn i gyd ddod yn fwy effeithlon a helpu ymchwilwyr i gael mynediad at y data sydd gennym yn y llywodraeth.”

A ydych chi’n mynychu’r gynhadledd? Rhannwch eich meddyliau a’ch lluniau ar Twitter neu LinkedIn gan ddefnyddio’r hashnod #IPDLN2022.