Mae pandemig Covid-19 wedi dangos bod cael gafael mewn pryd ar ddata yn allweddol i ymchwilwyr a llunwyr polisïau ddeall sefyllfa a’i heffaith ar gymdeithas orau.
Am fod mwy o angen am y data hwn, mae’r tîm caffael data yn YDG Cymru a’i bartner sef Banc Data SAIL wedi sicrhau hyd yma 28 o ffynonellau data newydd i gynorthwyo dadansoddiad Covid-19.
Mae’r ddau sefydliad yn rhan o dîm traws-sefydliadol o’r enw Cymru’n Un a luniwyd yn gyflym pan ddaeth achosion Covid-19 i’r amlwg gyntaf. Y pwrpas oedd darparu’r arbenigedd a’r ddirnadaeth angenrheidiol i lywio penderfyniadau polisi i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru (TAG) a Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar gyfer Argyfyngau (SAGE).
Gall y gymuned ymchwil ehangach nawr hefyd elwa ar y ffaith bod mwy o ddata ar gael yma. Gall ymchwilwyr cymeradwy weld setiau data gweinyddol newydd, gan gynnwys data Cyfrifiad yn ogystal â data cysylltiedig ag iechyd, y mae eu prosiectau’n cael eu cymeradwyo trwy broses ymgeisio arferol Banc Data SAIL a, lle bo angen, y Panel Achredu Ymchwil (RAP) hefyd. Dim ond yn unol â’r fframwaith ‘Pum Diogel‘ y caiff ymchwilwyr sy’n cyrchu data o SAIL wneud hynny.
Mae rhai o’r setiau data newydd wedi’u hanonymeiddio sydd ar gael ym Manc Data SAIL yn cynnwys:
- Cyfrifiad Cymru 2011 SYG (CENW)
- Cyfrifiad Blynyddol Gweithlu Ysgolion
- Set ddata Mynychu Addysg
- Set ddata Traciwr Symptomau COVID-19
- Set ddata Brechu rhag Covid (CVVD)
- Rhestr Pobl a Warchodir rhag COVID-19
- Canlyniadau prawf COVID-19
- Prawf Llif Unffordd Covid (CVLF)
- COVID-19 Profi Olrhain a Diogelu [CTTP]
- Data Dilyniant COVID-19
Drwy ddefnyddio’r data hwn a gysylltir â setiau data eraill a gedwir yn ddiogel ym Manc Data SAIL, galluogwyd tîm Cymru’n Un i ddarparu dadansoddiad cyflym i TAG Llywodraeth Cymru a SAGE y DU ar nifer o feysydd, gan gynnwys:
- Nifer yr achosion o heintiau yn agos at amser real ar lefel gymunedol gan ddefnyddio data profion Covid-19
- Profiadau’r rhai a osodwyd ar y rhestr pobl wedi’u gwarchod yng Nghymru a’r rheini a oedd yn byw gydag unigolyn wedi’i warchod
- Dadansoddiad rhyddhau cleifion o’r ysbyty a nifer yr achosion yn y gymuned a brigiadau o gartrefi gofal
- Trosglwyddo Covid o fewn amgylchedd yr ysgol
- Gwerthusiad ar frechlynnau a cheulo yng Nghymru
Mae mynediad at ddata wedi’i anonymeiddio ar gyfer ymchwil yn destun proses lywodraethu ac ymgeisio fanwl Banc Data SAIL. Gallwch weld rhestr o’r holl setiau data sydd ar gael ar hyn o bryd i gael mynediad ymchwil diogel ym Manc Data SAIL ar wefan SAIL.
