
Faye Gracey yw Pennaeth Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil ar gyfer tîm YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru. Mewn blog newydd, mae hi’n disgrifio ei phrofiad o gyflwyno yng Nghynhadledd Cymdeithas Ymchwil Arolygon Ewrop 2025 a gynhaliwyd gan Brifysgol Utrecht yn Utrecht, yr Iseldiroedd.
Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o agor dadl fywiog. Cynigiais y bydd “Ymchwil data gweinyddol (YDG) yn disodli’r mwyafrif helaeth o arolygon—os nad pob un—ymhen amser”—dyna hefyd deitl fy nghyflwyniad. Honiad beiddgar, rhaid cyfaddef, ond wedi’i seilio ar y realiti sy’n esblygu: mewn llawer o achosion, mae data gweinyddol eisoes yn darparu mewnwelediadau ymchwil yn gyflymach, yn fwy dibynadwy, yn fwy moesegol, ac yn fwy cost-effeithiol nag arolygon traddodiadol.
Wrth sefyll ym mlaen Theatr Megaron, dechreuais feddwl tybed a oedd fy ngeiriau’n rhy feiddgar. Roedd cydweithiwr wedi fy rhybuddio gan gellwair y gallwn fod yn ceisio “gwerthu deiet seiliedig ar blanhigion i ffermwyr”—ymgais chwareus i ymateb i’r her o hyrwyddo ymchwil data gweinyddol i buryddion arolygon. Yn ffodus, nid oedd yr ymateb mor ddramatig.
Cynlluniwyd y ddadl i ysgogi, ac fe wnaeth. Roedd sylwadau a chwestiynau gan y gynulleidfa yn feddylgar ac yn adlewyrchu pryderon gwirioneddol. Roedd yn amlwg, er bod y DU wedi gwneud camau breision o ran agor data gweinyddol ar gyfer ymchwil diogel, heb ei adnabod, fod rhai gwledydd yn parhau i ddal i fyny. Roedd rhai o’r mynychwyr yn anghyfarwydd ag Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy (TREs), neu ag enghreifftiau o ymchwil data gweinyddol yn gyrru effaith yn y byd go iawn.
Eto i gyd, yr hyn a’m trawodd fwyaf oedd faint o ymchwilwyr mewn cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar arolygon sydd eisoes yn gwneud gwaith sy’n adlewyrchu’r hyn a wnawn fel rhan o ADR UK. (Byddai’n llai o syndod gen i mewn digwyddiad Rhwydwaith Cysylltu Data Poblogaeth Rhyngwladol i ddod o hyd i gynifer). Cyflwynodd Lisa Ziemba o Statistics Austria ddatblygiadau a chynlluniau ar gyfer eu Casgliad Data Gweinyddol ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (ADCOL), a oedd yn swnio’n debyg iawn i’n gwaith ni yng Nghymru. Trwy gydol y gynhadledd pum niwrnod, roedd data gweinyddol yn thema gyson—sut maen nhw’n cael eu defnyddio i lunio fframiau sampl arolygon, dilysu canfyddiadau, ac yn gynyddol, i gysylltu’n uniongyrchol ag ymatebion i arolygon.
Archwiliodd nifer llai, ond cynyddol, o gyflwyniadau TREs yn fanwl hefyd. Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn dysgu mwy am y prosiect EOSC-ENTRUST, sy’n anelu at greu rhwydwaith Ewropeaidd o TREs ac i sbarduno rhyngweithrediadau, sy’n ymddangos yn dilyn llwybr fel llwybr ein partner SAIL Databank yn gweithio gyda DARE UK.
Rwy’n fwy argyhoeddedig nag erioed y bydd y defnydd o ddata gweinyddol cysylltiedig yn ehangu yn y blynyddoedd i ddod. Wedi dweud hynny, bydd gan rai arolygon le hanfodol o hyd wrth gasglu naws a safbwyntiau uniongyrchol a all fod yn anodd eu hatgynhyrchu. Pan ddefnyddir arolygon, gadewch i ni helpu rheolwyr i ystyried yn rheolaidd ymarferoldeb eu cynnwys mewn TRE er mwyn agor rhagor o gyfleoedd ymchwil.
